Rydym am ddarganfod sut mae bywydau pobl wedi bod yn ystod y pandemig coronafeirws.

Astudiaeth blwyddyn yw hon sy’n cynnwys ymchwilwyr a sefydliadau ledled y DU i ddarganfod ac adrodd ar sut mae coronafeirws yn effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu. Mae’n cael ei ariannu gan UK Research and Innovation.

Cam 1 – Hydref 2020 i Chwefror 2021

Rydym am ddiolch i’r nifer fawr o bobl sydd wedi ein helpu yn y cam cyntaf yr astudiaeth. Diolch i bobl ag anabledd dysgu sydd wedi cael eu cyfweld, y bobl a’r sefydliadau sydd wedi ein helpu i ddod o hyd i bobl, eu cefnogwyr, ffrindiau a’i gofalwyr teulu. Gallwch ddarllen y crynodeb hawdd ei ddarllen o ganfyddiadau cam 1 yma (PDF). Gallwch hefyd ddarllen am y digwyddiad a gynhaliwyd gennym i rannu canfyddiadau cam 1 yma.

Diolch – Hawdd i’w Ddeall (Saesneg yn unig)

Cam 2 – ers diwedd mis Mawrth 2021

Mae arolwg ar ganfyddiadau, sy’n cynnwys briffiau hawdd eu deall, ar gael yma. Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad i rannu canfyddiadau cam 2 a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan  Gadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog, Joe Powell Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Wayne Crocker Cyfarwyddwr Mencap Cymru a thrafodaeth grŵp.

Cam 3 – Gorffennaf i Awst 2021

Wnaethon ni ddim recriwtio unrhyw un newydd ar gyfer y cyfnod hwn o’r astudiaeth gan i’r ymchwilwyr ond cyfweld â’r rhai a gymerodd rhan yng nghyfnodau 1 a 2. Mae trosolwg o’r canfyddiadau, gan gynnwys briffiau hawdd eu darllen, ar gael yma. Ym mis Medi cynhaliodd y tîm ymchwil amser holi. Roedd y digwyddiad yn cynnwys panel o gynrychiolwyr o’r 5 sefydliad partner sy’n rhan o’r ymchwil, a atebodd gwestiynau gan fynychwyr ar amrywiaeth o faterion.

Adroddiad terfynol

Cyhoeddodd yr astudiaeth ei hadroddiad terfynol ym mis Chwefror 2022. Gallwch ddarllen crynodeb o’r canfyddiadau yn ogystal â’r adroddiad llawn a fersiwn hawdd ei ddarllen yma.

Cam 4 – Mai 2022 i Ionawr 2023

Sicrhawyd cyllid pellach i gynnal pedwerydd cam ymchwil ar draws y DU i ddarganfod sut mae pobl ag anabledd dysgu a theuluoedd a gymerodd ran yn yr astudiaeth wreiddiol yn ymdopi wrth i’r DU wella o’r pandemig COVID-19. Gallwch ddarllen yr adroddiad ar ganfyddiadau cam 4, gan gynnwys crynodeb hawdd ei ddarllen yma.

Project logo showing a map of wales

Pam mae’r astudiaeth hon yn cael ei chyflawni?

Mae coronafeirws wedi arwain at newidiadau i bob un ohonom. Nid yw rheolau cymdei

thasol newydd a newidiadau yn ein bywydau o ddydd i ddydd bob amser yn hawdd byw gyda nhw.  Sut mae bywydau pobl ag anableddau dysgu wedi cael eu newid a sut maen nhw’n teimlo am hyn?  Rydym am gael gwybod gan bobl ac yna rydym am rannu’r hyn rydyn ni’n ei ganfod gyda llunwyr polisi, gwasanaethau a phobl eu hunain yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn.

Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth hon yng Nghymru?

Yng Nghymru bydd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal yr astudiaeth gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

  • Mae’r ymchwilwyr am gyfweld â 200 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
  • Efallai na fydd rhai oedolion ag anableddau dysgu yn gallu siarad ag, mae ymchwilwyr am siarad â 100 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig a allai ddweud wrth ymchwilwyr am yr hyn sydd wedi digwydd i’r bobl hynny hefyd
  • Bydd yr ymchwilwyr yn cyfweld pobl 3 gwaith yn ystod y flwyddyn. Gweithredir cyfweliad yr arolwg i ateb gofynion y person.  Er enghraifft, ar-lein, wyneb yn wyneb (rhith) neu ar y ffôn.
  • Bydd cwestiynau’n ymwneud â’u lles, eu hiechyd, eu bywyd cymdeithasol, eu gwasanaethau, y materion sy’n peri pryder iddynt a sut mae coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau.

Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth Hawdd eu Ddeall i gyfranogwyr (Saesneg)

Darllenwch y daflen friffio hawdd ei deall ar yr astudiaeth i’w gweld yma

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr astudiaeth ledled y DU ar y wefan (Saesneg)

Fideo gan Ffion, Cadeirydd Pobl yn Gyntaf Caerffili

Fideo gan Sophie, Cyd-Gadeirydd y Grwp Cyngori Gweinidogol Anabledd Dysgu

Fideo gan Gerraint, Llysgennad Arweiniol Engage to Change

Yr hyn rydyn ni wedi ei ganfod yn rhan gynta’r astudiaeth rhwng Medi 2020 a Mawrth 2021

I gael gwybod mwy am yr astudiaeth cysylltwch â:

Prifysgol De Cymru Yr Athro Stuart Todd stuart.todd@southwales.ac.uk ac Edward Oloidi edward.oloidi@southwales.ac.uk

Prifysgol Caerdydd Yr Athro Stephen Beyer beyer@cardiff.ac.uk

Anabledd Dysgu Cymru Sam Williams 029 20681160 neu e-bostio samantha.williams@ldw.org.uk

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan Ffôn: 02920 811120 neu 07976 223992 neu e-bostio Josh Law: josh@allwalelesforum.org.uk neu Gwen Anslow gwen@allwalesforum.org.uk

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Tracey Drew: tracey@allwalespeople1st.co.uk Ffôn: 07956 082211