Mae cryfhau hawliau pobl LHDTC+ yng Nghymru mor bwysig i bobl gydag anableddau dysgu ag y mae i bob un ohonom

 

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru

Yn Hydref 2021 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar eu cynllun gweithredu LHDTC+ Mae LHDTC+ yn meddwl lesbiad, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, queer neu gwestiynu ac mae’r plws yn meddwl hunaniaethau eraill neu gyfeiriadedd rhywiol, panrywiol neu anneuaidd. Mae canllaw hawdd ei ddeall ar fod yn LHDTC+ ar wefan Mencap. Nod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ydy mynd i’r afael gyda’r anghyfartaleddau y mae cymunedau LHDTC+ yn eu dioddef a chreu cymdeithas sydd yn ddiogel i bobl LHDTC+ fyw a charu yn ddilys, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain. Fe wnaethom ni ymateb i’r ymgynghoriad  ein hunain ac fel rhan o’r rhwydwaith Caru gyda Chefnogaeth Cymru.

Beth rydyn ni’n feddwl am y cynllun yn gyffredinol

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cefnogi’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn gryf ac mae’n ei weld yn gam pwysig mewn gwneud Cymru yn well gwlad i bobl LHDTC+ gydag anabledd dysgu. Rydyn ni’n llwyr gefnogi cynnwys unigolion trawsrywiol yn y cynllun. Mae’r gymuned anabledd dysgu yn hanesyddol wedi wynebu stigma a gwahaniaethu gan gymdeithas, sefydliadau ac unigolion ynddyn nhw. Mae’r frwydr dros gydraddoldeb i bobl gydag anabledd dysgu a phobl trawsrywiol yn gysylltiedig yn gryf, ac rydym yn sefyll mewn cefnogaeth gyda’r gymuned trawsrywiol.

Cael rheolaeth dros eich bywyd eich hun

Gall pobl gydag anableddau dysgu wynebu heriau sylweddol o ran cymryd rheolaeth dros pob agwedd o’u bywydau. Maen nhw weithiau yn cael eu gweld yn ‘blentynaidd’ yn hytrach nag yn oedolion sydd â theimladau oedolion ac sydd yn haeddu byw bywyd fel oedolion.   Mae hi’n bwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn ogystal â phobl gydag anableddau eraill yn cael mynediad i wybodaeth a chefnogaeth fel pawb arall.

Creu gofod diogel i bobl ddysgu amdanyn nhw eu hunain

Hoffem hefyd bwysleisio’r angen i greu gofod diogel i bobl gydag anabledd dysgu i ddarganfod pwy ydyn nhw ac i ddysgu am faterion LHDTC+. Rydyn ni hefyd yn bryderus nad ydy nifer o bobl gydag anabledd dysgu yn ddigon ymwybodol o’u hawliau a’r ffyrdd o gael yr hawliau hynny wedi eu gorfodi. Fe ddylai Llywodraeth Cymru neilltuo cyllid ac adnoddau penodol i greu’r gofodau yma. Y ffordd orau o wneud hyn fyddai ymgysylltu yn uniongyrchol gyda  chyrff hunaneiriolaeth i bobl gydag anabledd dysgu, yn cynnwys Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Grwpiau lleol Pobl yn Gyntaf, i edrych ar logisteg hyn.

 

Darllenwch ein hymateb i’r cynllun gweithredu LHDTC+ yma (LGBTQ Action Plan LDW) a’r ymateb Caru gyda Chefnogaeth yma (SL Cymru LGBTQ+ Action Plan Response)  (mae’r ddwy ffeil yn agor fel PDFs Saesneg).

 Gallwch hefyd ddarllen erthygl bwysig a ysgrifenwyd gan Taylor, person anneuaidd gydag anabledd dysgu yma .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech yr ymatebion i’r ymgynghoriad mewn fformatau eraill (yn cynnwys Saesneg) cysylltwch os gwelwch yn dda gyda ein Swyddog Polisi Grace yn Grace.Krause@LDW.org.uk.