A large group of people all wearing running shirts saying Gig Buddies

Rydym yn hynod o falch bod gennym 13 o redwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar ddydd Sul 2 Hydref, ac yn codi arian mawr ei angen ar gyfer Ffrindiau Gigiau!

Mae’r holl arian sydd yn cael ei godi yn ein helpu i gydweddu oedolion gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwr Ffrindiau Gigiau sydd yn rhannu’r un diddordebau, er mwyn iddyn nhw fynd i gigau a digwyddiadau erail gyda’i gilydd.

Dyma ein holl redwyr a’r dolenni ar gyfer eu tudalennau codi arian. Gallwch gefnogi Ffrindiau Gigiau drwy noddi un o’n rhedwyr. Diolch yn fawr i bawb – a phob lwc yn Hanner Marathon Caerdydd!

Ynglŷn â Ffrindiau Gigiau

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn paru pobl ag anabledd dysgu gyda rhywun heb anabledd dysgu sy’n rhannu’r un diddordebau, fel y gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd.

Mae partneriaethau Ffrindiau Gigiau Cymru yn dod at ei gilydd i gael hwyl mewn llwythi o wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau fel cystadlaethau reslo, cyngherddau, gemau pêl-droed a mwy.

Yn Ne Cymru rydym yn cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg. Yng Ngogledd Cymru rydym yn cwmpasu pob un o’r chwe sir – Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, a Wrecsam.

Pam mae angen eich cefnogaeth arnom

Mae ein prosiect yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl gydag anabledd dysgu. Mae cael Ffrind Gigiau yn golygu bod gan bobl ffrind newydd i fynd gyda nhw. Yn aml mae pobl gydag anabledd dysgu yn enwi staff cyflogedig fel eu ffrind a dydyn nhw ddim yn cael y cyfle i gael y bywyd cymdeithasol maen nhw yn ei ddymuno. Mae cael Ffrind Gigiau yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, mae’n gallu gwella eu iechyd a llesiant, eu hyder a chael bywyd cymdeithasol a hwyl fawr!

Dydy ein prosiect ddim yn gallu cyflenwi’r galw gyda’r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd, Mae gennym restr aros o bobl sydd eisiau ymuno gyda’r prosiect yn Ne a Gogledd Cymru. Mae’r gair yn lledaenu!

Fe fydd eich arian nawdd yn ein helpu i gynyddu’r nifer o bobl fydd yn gallu ymuno yn y prosiect a darganfod gwirfoddolwyr i greu pâr o Ffrindiau Gigiau.

Edrychwch i weld beth mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn ei olygu i Toam a’i Ffrind Gigiau Sam.