Mum and daughter smiling and giving a thumbs upRydym ni’n chwilio am 4 ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr cyfeillgar a gweithgar.

Gyda’n gilydd rydym ni’n gweithio i wneud Cymru’r wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio ynddi. Yna gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi fod yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru.

Mae gennym ni swyddi gwag i gynrychiolwyr o’r mathau canlynol o sefydliadau:

  • gofalwr teulu
  • hunan-eiriolaeth
  • darparwr cymorth i oedolion
  • cyflogaeth â chefnogaeth.

Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi os ydych chi:

  • Yn berson ag anabledd dysgu

neu

  • O grŵp nad yw wedi’i gynrychioli’n ddigonol gan gynnwys menywod a lleiafrifoedd ethnig.

Os ydych chi’n berson sydd ag anabledd dysgu ac yn meddwl efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch chi i fod yn ymddiriedolwr, gallwn helpu. Byddwn yn sicrhau eich bod chi’n cael cefnogaeth i baratoi ar gyfer cyfarfodydd er mwyn i chi allu cymryd rhan yn llawn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr yn ein taflen wybodaeth ymddiriedolwyr hawdd ei deall ac am ein gwaith yn ein Cynllun Strategol

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod:

Ffurflen gais

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

1 Tachwedd 2022

Bydd etholiadau i ddewis ymddiriedolwyr newydd yn cael eu cynnal yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 14 Tachwedd 2022.

Os ydych chi angen help neu fwy o wybodaeth, ffoniwch Joanne Moore ar 029 20681160 neu e-bostiwch joanne.moore@ldw.org.uk.