Heddiw (6 Ionawr 2026), mae gwasanaeth gwybodaeth hygyrch poblogaidd Anabledd Dysgu Cymru, Hawdd ei Ddeall Cymru, wedi lansio ei wefan newydd sbon.
Ar ôl misoedd o waith caled, gall tîm Hawdd ei Ddeall Cymru nawr arddangos eu gwasanaethau, eu hadnoddau a’u harbenigedd ar eu gwefan eu hunain: www.hawddeiddeall.cymru.
Mae Hawdd Ei Ddeall Cymru wedi tyfu i fod yn un o’r gwasanaethau Hawdd Ei Ddeall mwyaf uchel eu parch a’u galw yn y DU, gan gynhyrchu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o gleientiaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, elusennau a busnesau preifat. Mae’r gwasanaeth nid-er-elw yn helpu sefydliadau i gynnwys pobl ag anabledd dysgu yn well trwy wneud eu gwybodaeth yn symlach, yn gliriach ac yn haws i’w deall.
Mae hyn yn cael ei wneud yn y y ffyrdd canlynol:
- Dogfennau Hawdd Eu Deall
- Fideos Hawdd Eu Deall
- Saesneg Plaen
- Cymraeg Clir
- Print bras
- Gwybodaeth sy’n gyfeillgar i ieuenctid.
Mae Rheolwr Cyfathrebu Hygyrch Hawdd Ei Ddeall Cymru, Laura Griffiths, yn dweud eu bod fel tîm yn hyrwyddo’r angen am Hawdd Ei Ddeall o ansawdd da. “P’un a yw’n daflen mewn meddygfa teulu, gwefan gwasanaeth iechyd neu ymgynghoriad â’r llywodraeth, rydym ni’n credu bod gan bawb yr hawl i wybodaeth glir a dealladwy.
“Os nad yw sefydliadau’n darparu gwybodaeth hygyrch i bobl ag anabledd dysgu, er enghraifft, gallent fod yn colli allan ar bethau fel cyngor iechyd pwysig, cyfleoedd swyddi, cymorth a rhannu eu profiadau.”
Adnoddau ac offer rhad ac am ddim
Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth am Hawdd Ei Ddeall Cymru, mae’r tîm wedi creu rhywfaint o adnoddau gwych rhad ac am ddim sydd ar gael i’w lawrlwytho ar eu gwefan newydd:
- Fideos hyfforddi ‘Beth yw Hawdd Ei Ddeall?’
- ‘Geiriadur Diffiniadau’ Hawdd Ei Ddeall
- Awgrymiadau ymarferol a chanllawiau Hawdd Ei Ddeall.
Dysgu mwy
Os hoffech ddysgu mwy am Hawdd Ei Ddeall Cymru neu weithio gyda’r tîm, ewch i’r wefan newydd: www.hawddeiddeall.cymru.
>
>