Llyfrynnau Hawdd eu Deall am gadw'n iach yn ystod y perimenopos a'r menopos

Mae gwasanaeth Hawdd ei Ddeall Anabledd Dysgu Cymru yn lansio cyfres o lyfrynnau hawdd eu deall am y menopos am ddim i gyd-fynd â Diwrnod Menopos y Byd 2023.

Mae’r 4 llyfryn am ddim, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, wedi’u gwneud gan Hawdd ei Ddeall Cymru ac yn cynnwys:

Mae’r canllawiau wedi’u cynhyrchu diolch i addewid Hawdd ei Ddeall Cymru i wneud adnoddau hawdd eu deall am ddim bob blwyddyn am bynciau nad oes gwybodaeth hygyrch o ansawdd da ar gael.

Yn gynharach eleni gofynnodd Hawdd ei Ddeall Cymru i bobl ag anabledd dysgu, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol pa wybodaet

h hawdd ei ddeall roedden nhw ei angen. Menopos a pherthnasoedd oedd y 2 ymateb mwyaf poblogaidd (mae canllaw hawdd ei ddeall am ddim i berthnasoedd yn cael ei ddatblygu gan Hawdd ei Ddeall Cymru ar hyn o bryd).

Bu Hawdd ei Ddeall Cymru yn gweithio’n agos gydag Elusen y Menopos a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru i sicrhau bod yr adnoddau’n gywir ac yn berthnasol.

Mae Elusen y Menopos yn gweithio i sicrhau bod menywod, ac unigolion eraill sy’n profi menopos, yn deall y newidiadau sy’n digwydd iddynt ac yn gwybod beth i’w wneud nesaf.

Triniaeth Deg i  Fenywod Cymru yw’r unig elusen sy’n cael ei harwain gan gleifion yng Nghymru sy’n gwbl ymroddedig i gydraddoldeb iechyd menywod.

Arweiniwyd cynhyrchu’r llyfrynnau gan ein Swyddog Cyfathrebu Hygyrch, Rhian McDonnell, a ymchwiliodd i ba wybodaeth menopos oedd ar gael a nodi bylchau.

Fe wnaeth aelodau o Pobl yn Gyntaf Cwm Taf wirio’r llyfrynnau i sicrhau bod yr wybodaeth yn hawdd i’w darllen ac yn ddefnyddiol.

 

“Mae’r llyfryn yn helpu pobl i ddeall”

Dywedodd Jenny Haskey, Prif Swyddog Gweithredol Elusen y Menopos:

“Bydd dros hanner y boblogaeth yn profi’r menopos yn ystod eu hoes. Er gwaethaf hyn, mae llawer yn dal i gael trafferth i adnabod arwyddion a symptomau perimenopos a menopos, gan arwain at oedi gyda chefnogaeth a thriniaeth.

“Rydym am helpu pawb i ddeall y newidiadau a ddaw yn sgil y perimenopos a’r menopos, ac felly rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio ar y fenter bwysig hon gydag Anabledd Dysgu Cymru.

“Mae’r llyfrynnau menopos hawdd eu deall yn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn gallu cael gafael ar ein gwybodaeth ddibynadwy, fel y gallant ffynnu i ail hanner eu bywyd au.”

Dywedodd Dee Montague-Coast, Swyddog Ymgysylltu Triniaeth Deg i Fenywod Cymru:

“Fel yr unig elusen a arweinir gan gleifion a sefydliad pobl anabl yng Nghymru sy’n gwbl ymroddedig i gydraddoldeb iechyd menywod, mae FTWW yn falch iawn o gefnogi cyhoeddi’r llyfrynnau Hawdd eu Deall Cymru hyn ar y Menopos.

Gwella gofal ar gyfer y menopos yw un o ymgyrchoedd craidd FTWW. Un o’r problemau mwyaf yw diffyg gwybodaeth sydd ei angen mewn fformat sy’n gweithio i bawb. Mae cael y llyfrynnau hyn yn Gymraeg a Saesneg yn golygu y gall mwy o bobl sydd eisiau gwybod am y perimenopos, y menopos, triniaeth, a sut i gael mynediad at wasanaethau yng Nghymru elwa.

Diolch yn fawr iawn a da iawn i bawb sy’n ymwneud â chreu adnodd mor bwysig.”

Dywedodd aelodau Pobl Cwm Taf yn Gyntaf:

“Mae’r lluniau’n dda iawn, mae’n help mawr.” Rachel

“Mae’r llyfrynnau yn helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall ac mae’n bwysig cael y wybodaeth.” Lynne

“Mae wedi fy helpu i ddeall beth mae menywod yn mynd drwyddo fel y gallaf fod yn sympathetig ar adegau penodol.” Lloyd

“Fe wnes i ddysgu o’r llyfryn ac fe helpodd fi i siarad â fy mam am y peth.” Claire

“Fe wnaeth fy helpu i ddeall [perimenopos a menopos] ac fe helpodd fi i ddeall beth sy’n digwydd i mi.” Rachel

 

Mae gwybodaeth hygyrch yn bwysig

Ym mis Gorffennaf 2022, sefydlodd Llywodraeth  Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen Menopos Cymru Gyfan, er mwyn gwella mynediad at ofal a chymorth menopos o ansawdd uchel yng Nghymru. Roedd argymhelliad gan yr adroddiad yn cynnwys yr angen am addysg a gwybodaeth ehangach am y menopos.

Gwyddom fod gwybodaeth hygyrch yn rhan bwysig o hyn. Rydym am helpu pawb i gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus a gofalu am eu hiechyd.

Thema Diwrnod Menopos y Byd eleni  yw clefyd cardiofasgwlaidd. Mae ymchwilwyr wedi darganfod yn ddiweddar bod menopos yn un o’r pethau a all effeithio ar y siawns o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Rydym hefyd yn gwybod bod pobl ag anabledd dysgu mewn mwy o berygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd ac yn profi cryn dipyn o anghydraddoldeb iechyd. Mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r risg ac yn deall yr hyn y gallant ei wneud i gadw eu hunain yn iach.

Rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau newydd hawdd eu deall, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cefnogi ac yn grymuso pobl i eirioli drostynt eu hunain. Ein nod yw helpu pobl i ddeall mwy am y perimenopos a’r menopos, fel y gallant gymryd camau i gael y cymorth a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt.

Diolch i Elusen y Menopos, Triniaeth Deg i Ferched Cymru a Pobl yn Gyntaf Cwm Taf am eu cefnogaeth i ddatblygu’r llyfrynnau hyn. Diolch hefyd i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu syniadau am ba adnoddau hawdd eu deall maen nhw eu heisiau a’u hangen.

Ni chafodd y prosiect hwn unrhyw arian allanol.

Wrth i gleientiaid sy’n dewis Hawdd ei Ddeall Cymru ar gyfer eu dogfennau hawdd eu deall, mae hynny wedi rhoi cyfle i ni greu gwybodaeth bwysig am ddim i bobl ag anabledd dysgu. Diolch i’n holl gleientiaid.

I gael dyfynbris am ddim, darganfod sut y gallwn eich helpu, a chefnogi popeth y mae Anabledd Dysgu Cymru yn ei wneud, e-bostiwch easyread@ldw.org.uk.