Yn aml mae rhieni yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i’w plant anabl. I helpu teuluoedd, mae Cerebra wedi datblygu Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus i gefnogi pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr sydd yn cael trafferthion gydag asiantaethau statudol.

Brwydro i gael cefnogaeth

Mae plant anabl a’u teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol weithiau er mwyn cael bywyd normal beunyddiol. Er enghraifft, help gydag ymolchi neu fwyta, symud o gwmpas neu gyfathrebu. Mae’n ddyletswydd cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ateb yr anghenion yma drwy ddarparu cefnogaeth, fel darparu rhywun i helpu gyda gofal personol yn y cartref, offer arbenigol, addasiadau, egwyl byr neu wasanaethau therapi Ond rydym yn gwybod o’n gwaith yn Cerebra gyda theuluoedd, mae rhieni yn aml yn ymarferol yn cael trafferth i dderbyn y gefnogaeth gywir i’w plant ac mae diffyg cefnogaeth yn gallu amharu ar iechyd a llesiant y teulu cyfan.

Ymchwil

Datgelodd ymchwil a gynhaliwyd gydag Ysgol y Gyfraith Caerdydd ym mis Hydref 2015 bod teuluoedd plant anabl yn profi oedi sylweddol wrth gael diagnosis GIG a phan maen nhw’n derbyn eu diagnosis ychydig iawn  o rieni sydd yn cael gwybodaeth ysgrifenedig am hynny. Dydy gwasanaethau cefnogi ddim yn cael eu cynnig bob amser a phan fydd hynny’n digwydd, yn aml iawn dydyn nhw ddim yn ateb anghenion y teulu. Mae rhieni hefyd yn amharod i gwyno am hyn ac os ydyn nhw’n cwyno, anaml iawn y bydd eu pryderon yn cael eu trafod.

Pecyn cymorth i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus

O ganlyniad i’r ymchwil, yn 2016, a gyda chefnogaeth y Cyngor Economaidd a Gofal Cymdeithasol, cyhoeddodd Cerebra y Pecyn Cymorth i Gael Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus i gefnogi pobl anabl a gofalwyr sydd yn wynebu anawsterau gyda’r asiantaethau statudol mewn perthynas â darpariaeth  gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Mae’n wir dweud bod cyfraith y DU yn darparu hawliau pwerus i wasanaethau cefnogi o’r fath, ond gall hyn ynddoi’i hun fod yn annigonol.

Luke Clements, cyfreithiwr ac Athro’r Gyfraith Cerebra ym Mhrifysgol Leeds, a ddatblygodd y Pecyn Cymorth gyda chyfraniad rhieni-ofalwyr. Mae Luke yn esbonio: “Gall y gyfraith fod yn gymhleth ac yn anodd i’w deall. Hyd yn oed pan fyddwch yn gwybod beth ydy eich hawliau, gall fod yn frawychus, yn flinedig ac ar adegau yn arswydus i herio swyddogion cyhoeddus. Mae yna anghydbwysedd grym ac mae cryn dipyn o ymchwil yn awgrymu (ac mewn gwirionedd mae’r Llywodraeth yn derbyn hyn) bod nifer o deuluoedd yn poeni y gall cwyno waethygu pethau”.

Canllaw ymarferol i ddatrys problemau

Mae’r pecyn cymorth yn ganllaw ymarferol, cynhwysfawr a hawdd ei ddefnyddio i helpu teuluoedd i ddatrys anawsterau gyda’u gwasanaethau cefnogi statudol iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Ei nod ydy helpu i ddatrys problemau cyffredin a chynnig strategaethau effeithiol i’w datrys. Mae’n:

  • ystyried naw categori cyffredin o anghydfod, o anghydfodau rhyng-asiantaeth ac achosion cymhleth i broblemau oedi ac adnoddau, ac mae’n cynnig cyngor manwl ar gyfer eu datrys
  • nodi ffactorau allweddol sydd yn gallu grymuso pobl i hawlio eu hawliau ac i herio methiannau pan fydd hynny’n digwydd
  • cynnig cyngor ar baratoi ar gyfer, mynychu a dilyn i fyny ar gyfarfodydd
  • nodi cyfres o lythyrau enghreifftiol y gall teuluoedd eu defnyddio mewn amrywiol sefyllfaoedd.

Mae hefyd yn darparu Chwalu Jargon, esboniad o’r hyn mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus ei wneud ac mae’n archwilio nifer o chwedlau cyffredin.

Gweithdai i deuluoedd

Er mwyn cyrraedd cymaint o deuluoedd â phosibl, mae Cerebra wedi cyflwyno’r pecyn cymorth am ddim i grwpiau rhieni-ofalwyr ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Hyd yn hyn rydym wedi cynnal 74 o weithdai ac rydym eisiau cynnal rhagor ledled y DU. Ac felly rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y posibilrwydd o gydweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru i gynyddu ein gwaith yng Nghymru a hefyd ymestyn darpariaeth i gyrff cefnogi i gynyddu eu galluoedd cyfreithiol er  mwyn eu galluogi i roi gwell cymorth i rieni-ofalwyr a’u teuluoedd. Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn gweithdy yn y dyfodol agos!

Cerebra – pwy ydyn ni

Mae Cerebra yn elusen cenedlaethol wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin ac mae’n cefnogi teuluoedd sydd â phlant gydag anableddau yn deillio o gyflwr yr ymennydd. Elusen ymchwil ydyn ni yn ein hanfod sydd yn cyllido nifer o grwpiau ymchwil meddygol a’r Prosiect Hawliau Cyfreithiol a Datrys Problemau (LEaP) sydd yn ymchwilio i’r problemau y mae teuluoedd yn eu wynebu wrth geisio cael mynediad i’r gwasanaethau sydd yn ddyledus iddyn nhw gan gyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Arweinydd y Prosiect LEaP ydy Luke Clements, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Leeds. Nod y prosiect ydy arfogi teuluoedd yn well i ddatrys problemau a galluogi asiantaethau statudol i wella eu prosesau gwneud penderfyniadau ac felly lleihau’r tebygolrwydd bod problemau o’r fath yn codi eto yn y dyfodol.

Derek Tilley
Cerebra

Rhif Uniongyrchol Tîm LEaP: 01267 242582