Rydyn ni wedi cael haf prysur yn Anabledd Dysgu Cymru gyda phump aelod newydd o staff yn ymuno â’n tîm ni.  Dros yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cyflwyno Rebecca, Lyndsey, Grace ac Angela.  Yn olaf, ond nid yn lleiaf, rydyn ni’n croesawu ein gweinyddwr newydd, Rhobat Bryn Jones.

“Wi’n gweithio yn Anabledd Dysgu Cyrmu ers dros mis bellach ac allwn i ddim bod wedi dymuno cael criw mwy cyfeillgar i weithio gyda nhw.  Yr hyn sydd yn nharo i hefyd yw ymroddiad y tîm i bobl gydag anabledd dysgu sydd wrth wraidd y sefydliad.  Mae aelod o nheulu ar y sbectrwm awtistig sydd wedi golygu dysgu wrth brofiad sut mae rhywun yn profi’r byd sydd ohoni ac sut mae’n ceisio ymdopi â fe.  Mae gweithio yn ADC wedi rhoi perspectif newydd i fi ar hyn ac wi’n gobeithio dysgu mwy wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

“Fel un o’r Gweinyddwyr yn y sefydliad, wi’n gweld fy rôl fel helpu aelodau eraill o’r tîm i ryddhau eu hamser nhw er mwyn darparu’r gwasanaeth ar gyfer y rhai sydd angen eu cymorth.  Weithiau mae pobl yn gweud bod gwaith papur yn gallu mynd yn y ffordd o wneud eu swyddi nhw.  Wi’n gobeithio bydd nghyfraniad yn cael y gwrth-effaith.

“Tu fas i’r gwaith, wi’n briod â Catherine ac mae dwy lysferch hyfryd gyda fi.  Siaradwr Cymraeg rhugl dw i, wedi gweithio fel tiwtor ym Mhrifysgol Caerdydd am 22 flynedd.  Hanes Cymru yw mhrif ddiddordeb, yn enwedig hanes rheilffyrdd Cymru, ac wi wedi cyhoeddi llyfr yn ddiweddar am Reilffordd y Barri.”

Gwella sut rydym yn ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru

Gallwch ddarllen am yr aelodau eraill o’r staff sydd wedi ymuno yn ddiweddar gyda’n tîm yma:

Lyndsey Richards – Rheolwraig Prosiect
Rebecca Chan – Swyddog Gwybodaeth Hygyrch
Angela Kenvyn – Rheolwraig Prosiect Engage to Change
Grace Krause – Swyddog Polisi

Mae Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro wedi ysgrifennu am sut y bydd gan ein tîm sydd newydd ehangu effaith sylweddol ar ein gwaith, a sut rydym ym ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.

Collage of 5 new members of staff

Our five new members of staff. (Clockwise from top left) Lyndsey, Angela, Grace, Rebecca and Rhobat