Mae’r cwrs undydd yma yn rhoi’r sgiliau i gyfranogwyr i ddefnyddio’r offer meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn craidd angenrheidiol i ddatblygu proffil un tudalen a sut i weithredu ar hyn a deall sut y gall meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a phroffiliau un tudalen helpu i gyflenwi gwasanaethau wedi’u personoli sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

“Mae dealltwriaeth wedi’i diffinio’n dda o ‘pwysig i ac ar gyfer’ ac adolygiad rheolaidd o ‘beth sy’n gweithio/ddim yn gweithio’ sydd yn arwain gweithredu yn amod angenrheidiol ar gyfer unrhyw ffurf o ddarpariaeth gwasanaethau.”

John O’Brien

Fe fydd y cwrs yn darparu’r technegau a’r sgiliau i gyfranogwyr:

  • Defnyddio’r offer meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn craidd i ddatblygu proffiliau un tudalen gyda phobl sy’n derbyn cymorth ac eraill sy’n bresennol yn eu bywydau; trwy adnabod a gwahanu’r hyn sy’n bwysig i rhywun oddi wrth yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. A chofnodi’r wybodaeth yma ar ffurf proffil un tudalen.
  • Gwybod sut y gall proffil un tudalen fod yn gychwyn ac yn sylfaen i gynllun cymorth a sut i benderfynu pa offeryn meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’w ddefnyddio i ddatblygu proffil un tudalen yn gynllun ffordd o fyw hanfodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn neu gynllun cymorth.
  • Sicrhau bod y proffil un tudalen yn datblygu ac yn tyfu yn seiliedig ar yr hyn y mae unigolion yn dweud wrthyn ni sy’n gweithio a ddim yn gweithio yn eu bywydau a phwysigrwydd adolygu’r broses ac arwain at ganlyniadau a chamau gweithredu clir sy’n gwneud gwahaniaeth i fywyd person.
  • Nodi beth ydy cyfrifoldebau craidd a lle y gallwch ddefnyddio barn a chreadigrwydd a’r hyn sydd ddim yn gyfrifoldeb cyflogedig i chi.
  • Cofnodi sut y mae rhywun yn cyfathrebu trwy ddefnyddio siart cyfathrebu.

Ar gyfer

Uwch reolwyr, rheolwyr llinell flaen, aelodau o’r teulu a gofalwyr a gweithwyr cymorth.

I gymryd rhan yn y cwrs hwn rhaid i chi fod wedi mynychu Sgiliau Meddwl sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn neu yn meddu ar wybodaeth a phrofiad eisoes o Gynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a Phroffiliau Un Tudalen.