Mae yna ffyrdd o hwyluso adolygiadau sydd yn gosod yr unigolyn yng nghanol y broses ac sydd yn tynnu oddi ar offer a dulliau gweithredu meddwl yn canoli ar yr unigolyn. Dydy’r broses yma yn aml ddim yn cymryd mwy o amser na gwaith paratoi, ond fe fydd yn datblygu cynllun gweithredu canoli ar yr unigolyn gyda’r person sydd yn glir ac yn ffocysedig.

Mae’r cwrs yma yn rhoi:

  • Dealltwriaeth o’r ddau fath o adolygiadau yn canoli ar yr unigolyn. Un yn seiliedig ar yr hyn sydd yn gweithio a ddim yn gweithio o wahanol bersbectifau, ac un yn casglu gwybodaeth canoli ar yr unigolyn hefyd i ddechrau datblygu cynllun yn canoli ar yr unigolyn neu gynllun cefnogi.
  • Dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng cynllunio yn canoli ar yr unigolyn ac adolygiad yn canoli ar yr unigolyn
  • Ymarferion strwythuredig i alluogi cyfranogwyr i ddeall y penawdau a’r prosesau a ddefnyddir mewn adolygiadau
  • Cyfle i ymarfer hwyluso sgiliau er mwyn hwyluso adolygiadau yn canoli ar yr unigolyn.
  • Ymarfer i ddatblygu cynlluniau gweithredu clir yn canoli ar yr unigolyn a dealltwriaeth ynghylch sut i ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd mewn adolygiad fel bod modd datblygu cynllun neu gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Ar gyfer

Uwch reolwyr, rheolwyr rheng flaen, aelodau’r teulu, gofalwyr a gweithwyr cefnogi. I gymryd rhan yn y cwrs hwn rhaid i chi fod wedi mynychu Sgiliau Meddwl yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn neu fod gennych wybodaeth a phrofiad eisoes o Gynllunio yn Canolbwyntioi ar yr Unigolyn a Phroffiliau Un Tudalen.