Mae Anabledd Dysgu Cymru’n chwilio am bobl i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd bwysig ar sut mae’r coronafeirws yn effeithio ar fywydau pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Rydyn ni’n rhan o astudiaeth ymchwil ledled-y-DU, a ariennir gan UK Research and Innovation, sydd yn dechrau yng nghanol mis Tachwedd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am bobl a fyddai diddordeb gyda nhw mewn cymryd rhan i arwyddo ein ffurflen mynegi diddordeb os gwelwch yn dda.

Pam mae’r astudiaeth hon yn cael ei chyflawni?

Mae coronafeirws wedi arwain at newidiadau i bob un ohonom. Nid yw rheolau cymdeithasol newydd a newidiadau yn ein bywydau o ddydd i ddydd bob amser yn hawdd byw gyda nhw.  Sut mae bywydau pobl ag anableddau dysgu wedi cael eu newid a sut maen nhw’n teimlo am hyn?  Rydym am gael gwybod gan bobl ac yna rydym am rannu’r hyn rydyn ni’n ei ganfod gyda llunwyr polisi, gwasanaethau a phobl eu hunain yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn.

Pwy ydyn ni am iddyn nhw gymryd rhan yn yr astudiaeth?

Hoffem glywed gennych chi os:

  • ydych chi’n berson ag anabledd dysgu
  • ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr di-dâl i berson ag anabledd dysgu
  • ydych chi’n weithiwr cymorth â thâl sy’n cefnogi person ag anabledd dysgu neu
  • rydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n adnabod pobl a allai fod eisiau rhannu eu straeon.

Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth hon yng Nghymru?

Yng Nghymru bydd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal yr astudiaeth gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?

  • Mae’r ymchwilwyr am gyfweld â 200 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
  • Efallai na fydd rhai oedolion ag anableddau dysgu yn gallu siarad ag, mae ymchwilwyr am siarad â 100 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig a allai ddweud wrth ymchwilwyr am yr hyn sydd wedi digwydd i’r bobl hynny hefyd
  • Bydd yr ymchwilwyr yn cyfweld pobl 3 gwaith yn ystod y flwyddyn. Gweithredir cyfweliad yr arolwg i ateb gofynion y person.  Er enghraifft, ar-lein, wyneb yn wyneb (rhith) neu ar y ffôn.
  • Bydd cwestiynau’n ymwneud â’u lles, eu hiechyd, eu bywyd cymdeithasol, eu gwasanaethau, y materion sy’n peri pryder iddynt a sut mae coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau.

Cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda

Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych yn fodlon ein helpu i ddod o hyd i bobl i gymryd rhan, cofrestrwch drwy lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb fer yma

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, rydych chi ond yn dweud bod gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am yr astudiaeth ymchwil. Nid yw’n golygu eich bod yn cytuno i gymryd rhan ynddo.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi yn nes ymlaen er mwyn i chi allu penderfynu p’un a ydych am gymryd rhan. Ni fyddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt am unrhyw reswm arall.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch y daflen friffio hawdd ei deall ar yr astudiaeth i’w gweld yma

I gael gwybod mwy am yr astudiaeth cysylltwch â:

Prifysgol De Cymru Yr Athro Stuart Todd stuart.todd@southwales.ac.uk ac Edward Oloidi edward.oloidi@southwales.ac.uk

Prifysgol Caerdydd Yr Athro Stephen Beyer beyer@cardiff.ac.uk

Anabledd Dysgu Cymru Karen Warner: 029 20681160 neu e-bostio karen.warner@ldw.org.uk

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan Ffôn: 02920 811120 neu 07976 223992 neu e-bostio Josh Law: josh@allwalelesforum.org.uk neu Gwen Anslow gwen@allwalesforum.org.uk

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Tracey Drew. tracey@allwalespeople1st.co.uk. Ffôn 07956 082211.