Yn 3 mis cyntaf 2022 ymatebodd Anabledd Dysgu Cymru i 9 gwahanol ymgynghoriad ar amrediad o bynciau. Mae ein holl waith polisi i’w weld ar ein tudalen polisi. Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl gydag anabledd dysgu, i fyw, dysgu a gweithio ynddi. Mae ein hymatebion i ymgynghoriadau yn rhan o’r gwaith yma lle rydym yn dweud wrth lywodraethau Cymru a’r DU beth rydym yn ei feddwl o’r cynlluniau sydd ganddyn nhw i newid eu polisïau.

1. Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2021-26

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu newydd ar gyfer 2021 i 2026. Fe wnaethom gasglu ymatebion gan ein haelodau a hefyd cyflwyno ein hymateb ein hunain. Credwn bod y cynllun yn cynnwys nodau pwysig ond hoffem weld rhagor o atebolrwydd a chanlyniadau manylach wedi’u nodi yn y cynllun.

Cyflwynwyd ein hymateb i Lywodraeth Cymru (ynghyd ag ymatebion gan unigolion a chyrff ar 28 Chwefror 2022. Gallwch ddarllen ein hymateb yma (agor fel PDF).

2. Diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae’r diwygiadau hyn yn cynnwys ei gwneud yn anos i fynd ag achos i’r llys, gan gyfyngu ar faint o iawndal y gall rhai pobl ei dderbyn  pan mae eu hawliau dynol wedi cael eu torri a’i gwneud yn haws i allgludo pobl. Rydym yn gwrthwynebu’r diwygiadau yma gan ein bod yn credu y byddan nhw yn ddrwg iawn i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru . Cyflwynwyd yr ymateb yma i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 7 Mawrth . Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma.

3. Comisiwn Etholiadol : Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ymgynghorodd Comisiwn Etholiadol y DU ar sut i wella cynhwysiant etholiadau, i ymgeiswyr a phleidleiswyr. Fe wnaethom ymateb gan ddweud ein bod yn meddwl ei fod yn beth da bod yr ymdrechion yma yn cael eu gwneud ond yr hoffem fod wedi gweld rhagor o ymchwil ar pam fod rhai grwpiau o bobl yn cael trafferth i gymryd rhan mewn democratiaeth a rhagor o ymrwymiad i ymestyn allan i gymunedau ar yr ymylon. Cyflwynwyd yr ymateb i Gomisiwn Etholiadol y DU ar 14 Chwefror 2022. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma (agor fel PDF)

4. Urddas Mislif

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar eu cynlluniau i roi terfyn ar y stigma a chywilydd o amgylch y mislif. Fe wnaethom ymateb ein bod yn cefnogi’r cynlluniau yma yn gryf ac yn neilltuol o hapus o weld ffocws cryf ar anabledd yn y cynnig yma. Fe fyddem yn croesawu yn benodol rhgaor o gydnabyddiaeth o anghenion pobl gydag anabledd dysgu sydd yn cael mislif. Cyflwynwyd ein hymateb i Lywodraeht Cymru  ar 25 Mawrth 2022. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma (Yn agor fel Word).

5. Therapi Trosi

Mae Llywodraeth y DU eisiau gwahardd therapi trosi i rai grwpiau yn y DU. Mae therapi trosi yn golygu therapi sydd yn ceisio gwneud pobl LGBTQ+ yn heterorywiol neu yn ‘syth’. Fe wnaethom ddweud ein bod yn meddwl ei bod yn bwysig gwaharddl therapi trosi a chredwn ei fod yn beth drwg nad ydy’r cynllun yn gwahardd pob ffurf o therapi trosi, ond yn ei ganiatau mewn rhai amgylchiadau.

Fe wnaethom gyflwyno ein hymateb gyda Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Charu gyda Chefnogaeth ar 10 Rhagfyr 2021. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma (agor fel PDF).

Rydym hefyd ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatganiad am  gynllun Llywodraeth y DU i beidio â gwahardd therapi trosi i bobl trawsrywiol.

6. Anghyfartaledd iechyd meddwl

Gofynnodd y Pwyllgor Iechyd  Gofal Cymdeithasol am dystiolaeth ar anghyfartaleddau iechyd meddwl yng Nghymru. Fe wnaethom ymateb drwy ddweud ein bod yn credu bod pobl gydag anabledd dysgu yn debygol o gael trafferth gyda’u iechyd meddwl oherwydd eu bod yn cael amser caletach wrth geisio cael unrhyw fath o ofal iechyd, maen nhw’n dueddol o fod yn dlotach na phobl eraill yng Nghymru ac yn llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig. Rydym angen gwell cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol ar frys i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru  yn ogystal ag i fynd i’r afael ag achosion craidd iechyd meddwl drwg.

Fe wnaethom ni gyflwyno ein hymateb i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 24 Chwefror 2022. Galwlch ddarllen yr ymateb llawn yma (agor fel PDF).

7. Strategaeth Cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)

Fe wnaethom gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yma gan Lywodraeth Cymru. Roeddem yn meddwl ei fod yn dda cael polisi sydd yn canoli o amgylch atal fel yr un yma, ond hoffem fod wedi gweld rhagor o gefnogaeth i ddioddefwyr yn y cynnig hwn. Hoffem hefyd weld rhagor o atebolrwydd i sefydliadau i ddelio gyda thrais a chwynion yn ymwneud â rhywedd.

Fe wnaethom gyflwyno ein hymateb  i Lywodraeth Cymru ar 7 Chwefror 2022. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma (agor mewn PDF)

8. Cynllun Prentisiaeth ar y Cyd Rhanbarthol

Fe wnaethom gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r prosiect Engage to Change. Rydym yn cefnogi’r cynllun yma yn gryf ac yn hapus i’w weld yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd newydd. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma (agor fel PDF).

9. Adrodd ar Weithlu Anabledd

Roedd Llywodraeth y DU eisiau gwybod sut orau i fesur faint o bobl anabl sydd yn gweithio mewn cwmnïau mawr. Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad yma gan ddweud ein bod yn meddwl ei bod yn bwysig mesur hyn ond ei bod yn bwysig hefyd sylweddoli y gall ymddangos bod rhagor o bobl anabl mewn gweithle oherwydd  bod rhagor o bobl yn cael diagnosis, tra bod pobl gydag anghenion cefnogi uwch yn parhau i gaelo trafferth i ddarganfod gwaith.

Fe wnaethom gyflwyno ein hymateb ar 24 Mawrth 2022 i’r Uned Anabledd, Swyddfa’r Cabinet. Gallwch ddarllen ein hymateb llawn yma (agor fel PDF).