Rydym yn falch o gyhoeddi ein rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer 2019. Yn ogystal â chynnwys pob un o’n cyrsiau poblogaidd, rydym wedi parhau i wella ansawdd ac amrywiaeth ein rhaglen hyfforddi drwy ychwanegu tri chwrs pwysig newydd.
Mae cyrsiau hyfforddi Anabledd Dysgu Cymru yn ddull ardderchog o gynyddu eich gwybodaeth, datblygu sgiliau newydd ac ehangu eich profiad a’ch dealltwriaeth o anableddau dysgu.
Mae ein rhaglen hyfforddi wedi ei hanelu tuag at ddiwallu anghenion hyfforddi a datblygu gweithwyr proffesiynol, aelodau teulu/gofalwyr, gweithwyr cefnogi a phobl gydag anabledd dysgu. Rydym yn cyflogi hyfforddwyr arbenigol yn eu maes er mwyn i chi allu ymuno gyda ni mewn newid sut mae pobl yn gweithio, byw a meddwl.
Ar gyfer 2019 rydym yn cyflwyn tri chwrs newydd:
- Gwella Cyfathrebu drwy Gyffwrdd gyda Phlant ac Oedolion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
 - Gwytnwch a Llesiant.
 - Cyflwyniad i Gefnogi Pobl Ar-lein.
 
Mae ein rhaglen newydd yn cynnwys pob un o’n cyrsiau poblogaidd:
- Gwneud gwybodaeth yn Hawdd ei Ddarllen a’i Ddeall Lefel 1 a Lefel 2.
 - Iselder, Pryder a Phobl gydag Anabledd Dysgu.
 - Llesiant yn y Gweithle.
 - Deall Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth i Oedolion.
 - Deall Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth i Blant a Phobl Ifanc.
 - Perthnasau Personol a Rhywioldeb.
 - Cyflwyniad i Gefnogi Pobl Ar-lein.
 - Meddwl wedi’i Ganoli ar y Person.
 
Gallwn hefyd gynnig yr holl gyrsiau, neu gallwn ddatblygu cyrsiau pwrpasol i’ch corff neu brosiect, ledled Cymru.
Ac wrth gwrs, mae croeso i chi gysylltu gyda’n tîm hyfforddi a rhannu’r hyn sydd bwysicaf i chi.
Os hoffech ragor o wybodaeth eu os hoffech archebu lle ar unrhyw un o’n cyrsiau cliciwch ar y dolenni uchod, neu cysylltwch gyda Inacia Rodrigues yn Anabledd Dysgu Cymru, ffôn 029 2068 1160 neu e-bost inacia.rodrigues@ldw.org.uk.
        
        
>
                      
>