Mae Anabledd Dysgu Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Cyfan, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Mencap Cymru yn nodi gyda rhyddhad bod canllawiau cyflym NICE ar gyfer COVID-19 wedi cael eu haddasu. Ond rydym yn parhau i fod yn bryderus y gall y canllaw osod pobl anabl mewn sefyllfa fregus yn wyneb yr achos Coronafeirws. Rydym yn neilltuol o bryderus y bydd pobl anabl, sydd eisoes yn destun anghyfartaleddau iechyd sylweddol, dan anfantais pellach drwy’r canllawiau yma. Rydym yn gwybod bod tlodi yn ffactor sylweddol o ran y gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng pobl anabl a phobl nad ydyn nhw’n anabl. Fe fyddai’n wirioneddol drasig pe bai’r anfantais y mae pobl anabl wedi’i wynebu ar hyd eu hoes yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn nawr wrth asesu gofal achub bywyd.

Roedd y canllawiau gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, yn dweud y dylid asesu pob claf sydd yn dod i’r ysbyty drwy ddefnyddio’r Raddfa Eiddilwch Clinigol (CFS). Lle mae adnoddau’n brin fe fyddai’r raddfa CFS y cael ei defnyddio wedyn fel canllaw i benderfynu a ddylid rhoi triniaeth feddygol i glaf mewn unedau gofal dwys. Datblygwyd y CFS yn benodol i asesu anghenion gofal cleifion dementia. Yn ôl y canllawiau ‘y pwrpas ydy nodi cleifion sydd mewn risg cynyddol o ganlyniadau gwael ac na fyddai efallai yn elwa o ymyriadau gofal critigol.’

Mae’r canllawiau wedi cael eu beirniadu ar y sail y bydden nhw’n ei gwneud yn fwy anodd i bobl gydag anabledd dysgu a phobl anabl eraill i dderbyn gofal. Mewn ymateb i hyn mae’r canllawiau bellach wedi cael eu newid. Ar y wefan sydd wedi’i diweddaru mae ychwanegiad i’r canllawiau gwreiddiol yn dweud:

“Ar 25 Mawrth fe wnaethom newid argymhellion 1.1, 2.2 a 2.4 i egluro y dylid defnyddio’r Radffa Eiddilwch Clinigol fel rhan o asesiad holistaidd, ond na ddylid ei defnyddio i bobl ifanc, pobl gydag anableddau hir dymor sefydlog, anableddau dysgu neu awtistiaeth. Fe wnaethom hefyd newid teitl y canllaw i egluro mai dim ond i oedolion y mae hyn yn berthnasol .
Byddwch yn ymwybodol o’r cyfyngiadau  o ddefnyddio CFS fel yr unig asesiad o eiddilwch. Ni ddylid defnyddio’r CFS ar gyfer pobl ifanc, pobl gydag anableddau hir dymor sefydlog (er enghraifft parlys yr ymennydd), anableddau dysgu neu awtistiaeth. Argymhellir asesiad unigol ym mhob achos lle nad ydy CFS yn briodol”

 

Rydym yn croesawu’r newid yma a’r gydnabyddiaeth nad ydy’r angen i dderbyn lefel uwch o gefnogaeth ddim yn gyfystyr ag eiddiliwch ac na ddylai olygu gwrthod triniaeth achub bywyd i unrhyw un. Ond rydym yn parhau’n hynod o bryderus y gallai’r meini prawf eraill a ddefnyddir i benderfynu ar risgiau a manteision roi bywydau pobl anabl mewn perygl anghymesur.