Datganiad gan aelodau Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru: Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Cyngor Cymru i’r Deillion a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar.

Mae ein datganiad yn gwneud cais i ddilyn set o egwyddorion ac i bobl ymuno i’w cefnogi – gweler isod. Fe fyddwn yn anfon y datganiad wedi’i lofnodi at Brif Swyddog Meddygol Cymru ac at Brif Swyddog Nyrsio Cymru.


Diweddariad ar ddatblygiadau (20 Ebrill 2020). Ers i ddatganiad Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru gael ei gyhoeddi ar 8 Ebrill, mae’r gweithrediadau canlynol wedi cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru:


Mae’r GIG wedi’i adeiladu ar yr egwyddor bod pob un ohonom yn gyfartal o ran urddas a gwerth. Mae’n mynegi ein hymrwymiad i ddiogelu hawl ein gilydd i fywyd ac i iechyd, waeth pwy ydyn ni.

Rydym yn cydnabod bod y GIG yn wynebu pwysau heb eu tebyg o’r blaen. Rydym yn gwybod y bydd rhaid i’w staff wneud penderfyniadau anodd ynghylch pwy fydd yn derbyn triniaeth a gofal a phwy na fyddan nhw . Rydym yn deall y bydd rhaid iddyn nhw farnu a fydd pobl yn elwa ac rydym yn gwybod y bydd iechyd cyfredol pobl yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Rydym hefyd yn deall y bydd GIG Cymru dan bwysau neilltuol oherwydd bod gan Gymru lefelau uchel o dlodi ac mae gan y boblogaeth ganran uwch o bobl hŷn ac anabl nag yn unrhyw le arall yn y DU.

Ond, rydym wedi darllen am achosion sydd wedi ein gwneud yn bryderus nad ydy’r egwyddorion yr adeiladwyd y GIG arnyn nhw yn cael eu cynnal ar adegau. Rydym yn bryderus nad ydy hawliau pobl anabl, o bob oedran, fel a nodir yn Neddf Hawliau Dynol (1998), Deddf Galluedd Meddyliol (2005), Deddf Cydraddoldeb (2010)  Cynhadledd Y Cenhedloedd Unedig a Hawliau Pobl Anabl (2006) a  Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (1998) bob amser yn cael eu cynnal. Fel rheol mae staff GIG Cymru yn defnyddio’r deddfau yma i’w helpu i wneud penderfyniadau am driniaeth pobl. Yn yr argyfwng yma mae’n bwysicach nag erioed bod holl staff GIG Cymru yn eu dilyn.

I sicrhau bod hyn yn digwydd, credwn ei bod yn hanfodol bod pawb dan sylw yn cael eu harwain gan yr egwyddorion canlynol:

  • Ni ddylai ein cyfle unigol o elwa oddi wrth driniaeth ar gyfer coronafeirws (COVID-19) gael ei ddylanwadu gan sut mae ein bywydau yn cael eu gwerthfawrogi gan gymdeithas.
  • Lle mae gennym gyflyrau iechyd eisoes neu namau heb fod yn berthynol i’n cyfle o elwa oddi wrth driniaeth, ni ddylen nhw chwarae unrhyw ran mewn gwneud penderfyniadau ynghylch ein hawl cyfartal i dderbyn triniaeth o’r fath.
  • Ni ddylai’r ffaith y gallai fod gennym lefelau sylweddol o anghenion gofal cymdeithasol a chefnogaeth, neu y gallwn fod ag anghenion o’r fath yn y dyfodol o ganyniad i’r pandemig, wneud i’r staff feddwl na fyddwn yn elwa oddi wrth driniaeth.
  • Mae gennym yr hawl i gymryd rhan llawn yn y penderfyniadau ynghylch ein bywydau ein hunain, yn cynnwys penderfyniadau bywyd a marwolaeth. Ni ddylid fyth wneud penderfyniadau heb ein cyfranogiad, neu heb roi ystyriaeth i’n buddiannau gorau. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros bolisïau yn seiliedig ar oedran neu anabledd nad ydyn nhw’n trin pob un ohonom ȃ pharch ac fel unigolion.
  • Mae gan bob un ohonom, a’n heiriolwyr, yr hawl i wybod am benderfyniadau y gellir eu gwneud amdanom a fydd yn effeithio arnom.
  • Rhaid datblygu canllawiau ar asesu, darparu a gwerthuso triniaeth a gofal a ddarperir i unigolion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) mewn cydweithrediad chyrff pobl anabl a chynrychiolwyr o gyrff hawliau dynol.

Rydym yn gwerthfawrogi GIG Cymru a’r gwerthoedd y mae’n eu cynrychioli  Rydym yn sefyll yn barod i wneud beth bynnag y gallwn i’w gefnogi i gadw’n driw i’w egwyddorion sefydlol yn y dyddiau, wythnosau a’r misoedd anodd i ddod.

Rydym yn galw arnoch i gefnogi’r egwyddorion yn ein datganiad drwy ychwanegu eich enw at y rhestr o lofnodwyr..

 

welsh national disability organisation logos