Wyth mlynedd ar ôl i Lywodraeth y DU a’r diwydiant gofal ddweud ‘byth eto’ yn dilyn sgandal Winterbourne View, mae ymchwiliad arall gan BBC Panorama – y tro yma yn datgelu’r cam-drin erchyll yn ysbyty Neuadd Whorlton yn Sir Durham, Lloegr – wedi dangos bod ‘byth eto’ yn ymddangos ymhell i ffwrdd. Mae Zoe Richards, Prif Weithredwraig Anabledd Dysgu Cymru, yn myfyrio ar y gwersi y dylem eu dysgu o raglen neithiwr.


 

I nifer, roedd y syniad o ailfyw sgandal Winterbourne View  ar ein sgriniau teledu neithiwr yn ormod. I’r rhai wnaeth wylio, ni allai’r nifer o rybuddion cyn y rhaglen o ‘olygfeydd allai beri gofiid’ eich paraoi ar gyfer yr erchyllterau a ddatgelwyd gan y newyddiadurwraig gudd Olivia Davies.

Mynegodd miloedd o bobl farn ar y cyfryngau cymdeithasol, efallai i gael cysur o wybod bod eraill yr un mor syfrdan ac wedi’u brawychu. Roedd llawer yn siarad am y rhaglen yng nghyd-destun anwyliaid. Cafodd teuluoedd eu holi fel rhan o’r rhaglen, ac roedd gweld eu trallod yn dorcalonnus.

Cyn dangos y rhaglen, roeddwn i o’r farn mai’r problemau fyddai staff heb fod yn weithwyr proffesiynol, heb eu hyfforddi ar gyflogau isel. Ond roedd yn amlwg bod sawl lefel o reoliadau yn methu’r cleifion. Gwelsom staff gofal, nyrs gofrestredig, rheolwyr wardiau a darparwyr hyfforddiant yn methu ar lefel fewnol.

Fe wnaeth y Comisiwn Ansawdd Gofal, sef yr arolygiaeth yn Lloegr, fethu’r holl arwyddion hanfodol a rhoi graddfa ‘da’ i’r ysbyty. Methodd y rhieni oedd yn ymweld – pan roedden nhw’n gallu gwneud hynny oherwydd y pellteroedd mawr rhwng y cartref a’r lleoliad – yr arwyddion hefyd. Cafodd yr arwyddion eu colli oherwydd nid mater o ‘ofal wael’ oedd yr hyn a welsom ond yn hytrach, camdriniaeth. A gyda chamdriniaeth y daw ‘cuddio’.

Rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Dim ysbytai arhosiad hir, pobl yn byw yn eu cymunedau eu hunain, proffesiynoli’r gweithlu gofal, eiriolaeth annibynnol gorfodol ac yn y blaen.  Y darlun mwy ydy sut mae cymdeithas yn ymateb yn gyffredinol.

Mae gennym blant a phobl ifanc nawr sydd yn tyfu’i fyny heb erioed brofi cyfeillgarwch gyda phlant eraill ag anabledd. Mae neilltuo plant anabl yn cychwyn ar oedran cynnar ac mae angen inni newid hyn.

Lle roedd llais yr unigolion eu hunain?

Datgelodd rhaglen neithiwr gamdriniaeth erchyll a fydd yn niweidio pobl am byth. Fe wnaethom glywed barn gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a’r cyfryngau. Ond roedd llais y person ar goll. Felly atgyfnerthwyd y syniad bod pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yn bobl sydd yn derbyn gofal yn unig ac yn analluog i gyfrannu at gymdeithas. Mae angen newid sylfaenol i’r system ac mae modd cyflawni hynny. Ond, mae’r newid cymdeithasol angenrheidiol i roi pobl   gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth mewn rheolaeth o’u bywydau yn rhywbeth y mae angen inni ei ddeall ac ymrwymo iddo, er mwyn cynnal y systemau sydd yn methu pobl.

Mae ysbyty Whorlton Hall, testun ymchwiliad cudd diweddaraf Panorama, yn Lloegr sydd â gwahanol bolisïau a chyrff rheoleiddiol i Gymru. Fe fyddwn yn gofyn cwestiynau am y sefyllfa gyfredol yng Nghymru, a hynny ar frys.

Zoe Richards
Prif Weithredwraig Dros Dro, Anabledd Dysgu Cymru