A close up of Adrian, a light skinned man with a grey goatee beard, wearing a black tshirt. Behind him on the wall is hanging a wooden mandolin.

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn talu teyrnged heddiw i Brif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymru a chyn Gadeirydd ein bwrdd ymddiriedolwyr,  Adrian Roper wrth iddo gychwyn ar ei ymddeoliad. Mae Adrian a fu yn weithiwr diflino yn y sector anabledd dysgu yng Ngymru am dros 40 mlynedd ac yn wir hyrwyddwr pobl gydag anabledd dysgu, yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymru heddiw.

Dywedodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu wrth siarad am ymddeoliad Adrian, “Mae Adrian wedi bod yn arweinydd yng Nghymru a hefyd yn gatalydd ar gyfer newid. Yn gyson gyda diddordeb mewn gwneud pethau yn well gyda’r difrifoldeb i ysgwyd pethau, fe fydd ei benderfyniad a’i ddyfeisgarwch yn cael ei golli o’r gymuned sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu.”

Dechreuodd gyrfa Adrian fel cydbreswylydd gwirfoddol mewn cartref grŵp NIMROD yng Nghaerdydd, y prosiect arloesol a ddaeth â phobl gartref o Ysbyty Trelai a helpu i ysbrydoli lansiad Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ym 1983. Gyda chymorth cyllid gan Strategaeth Cymru Gyfan, sefydlwyd Cartrefi Cymru ym 1989 fel cerbyd i ddarparu gwasanaethau anabledd dysgu o ansawdd uchel yng Nghymru wledig a’r Cymoedd ac ym 1996 daeth Adrian yn ail gyfarwyddwr i’r corff.

Yn y blynyddoedd diweddar mae Adrian wedi arwain Cartrefi Cymru i ddod yn gydweithrediaeth  aml randdeiliaid lle y gall y bobl maen nhw’n eu cefnogi, cyflogai a chefnogwyr cymunedol fod yn aelodau

Yn gefnogwr cryf i Anabledd Dysgu Cymru drwy gydol ei yrfa, treuliodd Adrian nifer o flynyddoedd fel ymddiriedolwr a bu’n Is-Gadeirydd ac yn Gadeirydd Anabledd Dysgu Cymru. Wrth longyfarch Adrian ar ei ymddeoliad dywedodd Joanne Moore ein Rheolwraig AD a Llywodraethiant  ei fod “wedi arwain y bwrdd mewn modd cadarnhaol, meddylgar a bob amser yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb.”

Talodd Karen Warner, ein Rheolwraig Arloesi, a fu’n olygydd ein cylchgrawn Llais ac a fu’n gweithio ochr yn ochr gydag Adrian am sawl blwyddyn y deyrnged arbennig yma i Adrian:

“Mae’r geiriau arloeswr ac arweinydd yn dod i’r meddwl wrth feddwl am Adrian a’r gwaith y mae wedi ei gyflawni. Wnaeth e erioed wrthod siarad i fyny, herio ac roedd bob amser yn fodlon cymryd risg a rhoi cynnig ar syniadau newydd i helpu i wella bywydau pobl. Adrian oedd y cyfrannydd mwyaf rheolaidd i’n cylchgrawn Llais. Fe wnaethom gynhyrchu 125 o rifynnau ac ysgrifennodd Adrian erthyglau oedd yn herio arfer drwg, archwilio atebion a chodi syniadau arloesol. Buom yn ffodus i’w gael fel Cadeirydd Anabledd Dysgu Cymru am nifer o flynyddoedd lle y bu’n arwain ein corff yn fedrus drwy ei waith ac roedd yn un arbennig gyda’i gitar yn ein cyfarfodydd ymddiriedolwyr dros nos!”

Dymunwn y gorau I Adrian a gobeithio y byddwch yn cael yr ymddeoliad mwyaf gwych!