17 Ebrill 1yp-2.30yp. Cartrefi Nid Ysbytai Protest Bywydau Wedi'u Dwyn. Teuluoedd yn ymgyrchu dros ryddhau pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd wedi'u dal mewn ysbytai meddwl yng Nghymru. Cyfarfod y tu allan i'r Senedd, Bae Caerdydd.Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn ymuno ag eraill o bob rhan o Gymru mewn protest y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 17 Ebrill rhwng 1pm a 2.30pm.

Mae’r brotest Cartrefi Nid Ysbytai wedi cael ei threfnu gan Bywydau Wedi’u Dwyn, grŵp o deuluoedd a gofalwyr sy’n galw am ryddhau pobl ag anabledd dysgu a/neu bobl awtistig o leoliadau ysbyty diogel yng Nghymru.

Cefndir

Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn cael eu rhoi yn yr unedau hyn oherwydd nad yw’r gwasanaethau maen nhw eu hangen ar gael yn eu cymunedau lleol. Nid yw anabledd dysgu yn fater iechyd meddwl, sy’n golygu bod pobl yn cael eu rhoi mewn ysbytai ar gam pan ddylent gael cymorth i fyw eu bywydau gartref.

Y gwir trist yw nad yw hwn yn fater newydd. Yn 2020, ychydig cyn i’r pandemig daro, amlygodd Adolygiad Gofal Cenedlaethol Llywodraeth Cymru fod 166 o bobl ag anabledd dysgu yn cael eu gofal mewn ysbytai. Fe wnaeth yr adroddiad 70 o argymhellion, mae un o’r rheiny’n nodi’n glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o’u trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.

Mae dros 40 mlynedd ers cyhoeddi Strategaeth arloesol Cymru Gyfan gyntaf yn 1983, oedd â’r nod o gael pobl ag anabledd dysgu allan o ysbytai arhosiad hir a chael cymorth i fyw yn eu cymunedau lleol. Fodd bynnag, heddiw mae pobl ag anabledd dysgu yn dal i gael eu hanfon i ysbytai meddwl a’u lleoli’n amhriodol mewn ysbytai, dim ond oherwydd nad yw’r cymorth cywir ar gael yn eu hardal leol. Dyna pam rydym ni’n cefnogi protest Cartrefi Nid Ysbytai.

Pam mae pobl yn protestio?

Esboniodd rhiant yr oedd ei mab wedi cael ei anfon i ysbyty meddwl o’r blaen: “Os ydyn ni’n parhau i ganiatáu i’r anghyfiawnder yma ddigwydd yna dydyn ni ddim yn wlad wâr. Ni allwn barhau i frifo’r gwannaf mewn cymdeithas a gwastraffu arian cyhoeddus yn gwneud hynny ac mae teuluoedd a sefydliadau sy’n dymuno gofalu am ein pobl awtistig ac anableddau dysgu yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i fynd i’r afael â’r mater a rhyddhau pobl o greulondeb erchyll. Mae angen amddiffyn eraill rhag cael eu dal mewn system ofnadwy.”

Dywedodd Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru: “Mae’n gwbl annerbyniol bod pobl ag anabledd dysgu yn byw mewn ysbytai pan ddylai eu gofal a’u cefnogaeth gael eu darparu gartref yn eu cymunedau lleol. Mae pobl ag anabledd dysgu yn cael eu rhoi mewn sefydliadau, er gwaethaf y ffaith mai Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd dros 40 mlynedd yn ôl i gyhoeddi strategaeth i symud pobl allan o sefydliadau. Rydym ni’n cefnogi ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn yn llawn a bydd Anabledd Dysgu Cymru yn ymuno â phrotest Cartrefi Nid Ysbytai y tu allan i’r Senedd ar 17 Ebrill i godi ymwybyddiaeth a phwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu.”

Yr angen am ddata

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn parhau i alw am gasglu a chyhoeddi data cywir gan Lywodraeth Cymru ar nifer y bobl ag anabledd dysgu sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai fel unedau iechyd meddwl neu unedau asesu a thriniaeth. Rydym ni hefyd eisiau data cynhwysfawr ar nifer y bobl ag anabledd dysgu sy’n byw yng Nghymru i alluogi gwell darpariaeth a chynllunio gwasanaethau.

Bydd protest Cartrefi Nid Ysbytai yn cael ei chynnal y tu allan i’r Senedd ddydd Mercher 17 Ebrill rhwng 1pm a 2.30pm. Gallwch gofrestru i gefnogi’r ymgyrch ac ymuno â’r brotest yma: Cartrefi Nid Ysbytai gan Bywydau Wedi’u Dwyn.

Gallwch ddarllen maniffesto Bywydau Wedi’u Dwyn, gan gynnwys fersiynau hawdd eu deall, yma: blog Bywydau Wedi’u Dwyn.