O fis Medi 2022 ymlaen bydd Addysg Rhyw a Chydberthynas yng Nghymru yn newid i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.  Rydyn ni’n awyddus i glywed oddi wrth weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anabledd dysgu er mwyn dysgu mwy am sut mae eich ysgol chi’n darparu addysg rhyw a chydberthynas, pa mor barod ydych chi am y newid i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a pha gefnogaeth rydych chi’n teimlo sydd ei hangen arnoch.


Mae Brook Young People a Mencap Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gyfuno blynyddoedd o arbenigedd ym maes iechyd rhywiol, lles, cydberthynasau a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu.

Mae Brook Young People wedi bod ar flaen y gad o ran darparu cymorth lles ac iechyd rhywiol i bobl ifanc ers dros 55 mlynedd. Mae ein gwasanaethau mewn cymunedau lleol, ein rhaglenni addysg, ein hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol a’n gwaith ymgyrchu yn golygu bod pobl ifanc mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau cadarnhaol ac iach am eu ffordd o fyw.

Mencap yw prif lais anableddau dysgu ledled y DU; mae wedi ymrwymo i sicrhau byd sy’n gwerthfawrogi pobl ag anabledd dysgu a byd sy’n eu cynnwys ac sy’n gwrando arnynt.  Mae gan Mencap Cymru brofiad o gefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i feithrin cyfeillgarwch â phobl eraill ac i ddeall hynt a helynt cydberthynasau, gan wella eu lles personol.  Mae Mencap Cymru hefyd yn cadeirio’r grŵp cydberthynasau a rhywioldeb traws sector yng Nghymru sydd â’r nod o rymuso pobl ag anableddau dysgu i gael cydberthynasau cadarnhaol, iach, doeth a diogel.

Beth allwch chi ei wneud?

Rydyn ni’n gwybod bod unigrwydd a salwch meddwl yn cael effaith anghymesur ar oedolion ag anabledd dysgu, sydd heb gael dim, neu fawr ddim, addysg iechyd rhywiol ddigonol yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol.  Gyda chyn lleied â 6% o bobl ag anableddau dysgu mewn perthynas bersonol, mae cyfle inni fynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn ond mae angen i ni gael gwybod yr hyn sydd ei angen ar lawr gwlad er mwyn deall y sefyllfa’n well.

Felly, rydyn ni’n galw ar weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anabledd dysgu i gwblhau ein harolwg dienw erbyn 11 Rhagfyr 2020. Byddwn wedyn yn rhannu canlyniadau’r arolwg â Llywodraeth Cymru.  Bydd y canlyniadau hefyd yn helpu Brook a Mencap Cymru i ystyried ffyrdd o gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar y rheng flaen i ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol a phriodol.

Cliciwch yma I gwblhau’r arolw.

Mae croeso i chi rannu’r arolwg hwn â chydweithwyr yn lleol a ledled Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch: Kelly.harris@brook.org.uk or Sian.Davies@mencap.org.uk.

Kelly Harris, Brook Young People