Mae Ein Hawliau Ein Llais yn cael ei redeg gan Anabledd Dysgu Cymru mewn partneriaeth gyda  Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Fe fydd y prosiect yn datblygu adnoddau a sgiliau newydd i bobl ag anabledd dysgu, ac fe fydd yn gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Fe fydd Ein Hawliau Ein Llais yn rhedeg tan Mawrth 2019, ac yn ystod y cyfnod yma fe fyddwn yn gweithio ar draws Cymru i:

  • ymgynghori gyda phobl ag anabledd dysgu
  • datblygu Sesiynau Codi Ymwybyddiaeth
  • darparu hyfforddiant Hyfforddi’r Hyffwrddwr i bobl ag anabledd dysgu
  • datblygu partneriaethau i ddarparu sesiynau Codi Ymwybyddiaeth i bobl ag anabledd dysgu.