O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae yna reolau newydd ynghylch sut y dylai awdurdodau lleol asesu pobl ar gyfer gofal a chefnogaeth a llunio a darparu cynlluniau gofal yn seiliedig ar eu hasesiadau.

Mae cynnwys yr unigolyn yn y broses asesu a chynllunio gofal yn hanfodol i’r rheolau yma er mwyn sicrhau bod eu nodau llesiant yn cael eu cydnabod a bod gofal a chefnogaeth sydd yn briodol i ddiwallu’r nodau yma yn cael eu sefydlu.

Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi derbyn Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i gynhyrchu deunyddiau Hawdd ei Ddeall a chynnal sesiynau hyfforddi/ymwybyddiaeth. Fe fydd y deunyddiau a’r hyfforddiant yma ynglŷn â’r system asesu a chynllunio gofal ar gyfer pobl ag anabledd dysgu gyda’r nod o wella eu hymgysylltiad a’u cyfranogiad yn y broses.

Fe fydd Beth sy’n Bwysig imi yn rhedeg tan Mawrth 2020 ac yn ystod y cyfnod yma fe fyddwn yn:

  • cynhyrchu deunyddiau Hawdd ei Ddeall ar asesu a chyllunio gofal
  • datblygu sesiynau hyfforddi
  • darparu hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu