Yn gynharach eleni datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, symudiad a groesawyd gan Anabledd Dysgu Cymru.  Cyn y streic Hinsawdd Byd-eang yr wythnos yma, mae Grace Krause, swyddog polisi yn Anabledd Dysgu Cymru yn codi pryder pwysig nad yw’n cael ei grybwyll mewn sgyrsiau am newid hinsawdd – sut y disgwylir i’r argyfwng gael effaith anghymesur ar bobl anabl.

Ar y dydd Gwener yma, 20 Medi, cynhelir Streic Hinsawdd Byd-eang, wedi’i threfnu gan bobl ifanc ac wedi’i hysbrydoli gan yr actifydd hinsawdd ifanc o Sweden, Greta Thunburg.

Mae’r mudiad streic ieuenctid yn galw ar bawb – hen ac ifanc- i sefyll mewn undod ac i weithio gyda nhw dros y Streic Hinsawdd Byd-eang a’r frwydr yn erbyn anghyfiawnder. Fel y dywedodd Greenpeace: “Fe fydd y Streic Byd-eang yn mynnu gweithredu radical ac ar frys gan lywodraethau a chorfforaethau i ddatrys yr argyfwng hinsawdd a wynebwn.”

Yn y DU mae’r streic wedi’i threfnu gan Rwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y DU. Yn ôl y Rhwydwaith trefnwyd y streic oherwydd: “Rydym eisoes yn wynebu distryw ac effeithiau di-droi’n-ôl o amgylch y byd. Dyma ein cyfle olaf i frwydro dros y dyfodol ac ni fydd oedran yn en hatal.”

Yng Nghymru fe fydd gwrthdystiadau yn Aberystwyth, Caerdydd, Conwy, Hwlffordd, Pontypridd, Abertawe a Thywyn. Gallwch ddarganfod ac ymuno gyda’ch streic brotest agosaf ar wefan y Streic Byd-eang.

Pam bod newid hinsawdd yn bwnc anabledd

Mae’r Streic Hinsawdd yn bwysig ac yn fater o frys. Mae’n effeithio ar bob un ohonom. Ond dydy e ddim yn effeithio ar bawb yn gyfartal. Lle mae tywydd eithafol fel stormydd, llifogydd a chyfnodau o dywydd poeth eithafol yn digwydd o ganlyniad i newid hinsawdd mae cyfleoedd goroesi yn llawer gwaeth i bobl anabl.

Disgwylir i’r materion cyffredin a drafodwn mewn perthynas â’r model cymdeithasol o anabledd fel mynediad anghyfartal i amgylcheddau a gwybodaeth, wneud effeithiau newid hinsawdd yn waeth i bobl anabl nag i eraill. Mewn ymateb i hyn, cyhoeddodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig gynnig yn gynharach eleni yn delio gyda hawliau pobl anabl mewn cysylltiad gyda newid hinsawdd am y tro cyntaf.

Cynwys pobl anabl mewn actifiaeth hinsawdd

Un hawliad canolog y cynnig ydy y dylid cynnwys pobl anabl ym mhob cam o’r broses. I bobl gydag anabledd dysgu, dylai rhan fawr o hyn gynnwys cynhyrchu gwybodaeth glir a hygyrch a sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn y sgyrsiau hyn.

Fe ddylem hefyd sicrhau bod gwasanaethau brys ac ymdrechion cymorth trychinebau yn cymryd anghenion pobl anabl i ystyriaeth, tra bod angen cynnwys pobl anabl hefyd mewn polisïau ac ymgyrchoedd sydd yn brwydro newid hinsawdd.

Tra’n ymchwilio i’r erthygl yma, mae’n frawychus cyn lleied o wybodaeth hawdd ei deall sydd ar gael ar-lein am newid hinsawdd. Dylid diolch i United Response am drafod y mater yn rheolaidd yn eu cylchgrawn ardderchog Easy News, ac mae canllaw hawdd ei ddeall da gan Unity Dorset (yn agor fel PDF) sydd yn cynnwys rhai cynghorion am rai o’r mân newidiadau y gallwn eu gwneud yn ein bywydau ein hunain.

Fe wnaeth prosiect Ewropeaidd yr oedd Anabledd Dysgu Cymru yn ei reoli yn ddiweddar helpu pobl gydag anabledd dysgu ar draws Ewrop i ddeall eu rôl yn well mewn cymdeithas fyd-eang, yn cynnwys effeithiau newid hinsawdd. Datblygodd y prosiect TIDE (Tuag at Ddatblygu Addysg Cynhwysol) raglen hyfforddi a maniffesto (yn agor fel PDF) oedd yn edrych ar faterion allweddol cyfiawnder, hawliau dynol a dulliau cynaliadwy o fyw, gyda phobl ifanc o Gymru yn cydgynhyrchu’r gweithdai. Gallwch lawrlwytho’r maniffesto yma.

Fe fydd lleihau ein heffaith ar natur ac atal llygredd yn golygu newid ein ffordd o fyw ac mae’n bwysig nad ydy’r newidiadau hynny yn effeithio ar bobl anabl yn fwy nag ar eraill.

Yn y cyfamser, mae newid ein ffordd o fyw i achub ein planed hefyd yn cynnig cyfleoedd i feddwl am y math o gymdeithas rydym ni eisiau byw ynddi. Er enghraifft, gallai hyn olygu cymdeithas lle mae llai o swyddi mewn diwydiant ond mwy mewn gofal cymdeithasol, neu un lle rydym yn defnyddio llai o bethau ond lle mae gennym ragor o amser rhydd i dreulio fel y mynnwn. Ydy, mae’r rhain yn syniadau idealistig ond mae angen inni feddwl yn eang os ydym am newid pethau er gwell.

Sut bynnag y mae’r byd yma yn edrych, dylai hygyrchedd a dathlu amrywiaeth fod wrth ei ganol a’r unig ffordd o wneud hynny ydy cynnwys pobl gydag anabledd dysgu a phobl anabl eraill ym mhob cam o’r ffordd.

Grace Krause
Swyddog Polisi, Anabledd Dysgu Cymru

Dilynwch fi ar Twitter yn @Grace_LDW.

Illustration of Greta Thunberg submerged in water with her head above the water, like an iceberg