Yn dilyn ymlaen o’r darn newyddion ar BBC Breakfast y bore yma ar hawl pobl ag anabledd dysgu i gael perthnasoedd, mae Grace Krause, Swyddog Polisi yn Anabledd Dysgu Cymru yn edrych ar y rhesymau pam ei bod hi mor anodd i bobl gael perthnasoedd. Mae’n rhannu gwybodaeth am y gwaith rydym yn ei wneud yn Anabledd Dysgu Cymru ac yn galw am ragor o hyfforddiant ar gyfer staff cefnogi a gofalwyr teulu fel bod pobl ag anabledd dysgu yn cael y gefnogaeth maen nhw ei angen.

Ar BBC Breakfast y bore ym darlledwyd rhaglen (gwyliwch ar iPlayer ar 2 awr, 58 munud a 18 eiliad) ar ba mor anodd ydy hi i bobl gydag anabledd dysgu gael perthnasoedd rhamantus. Yn y darn rydym yn cyfarfod nifer o bobl gydag anableddau dysgu sydd yn cael trafferth i ddarganfod ac i gynnal perthnasoedd rhamantus.

Rydym yn clywed stori Joanne. Roedd ei dyweddi Lee yn byw mewn llety byw gyda chymorth a doedd hi ddim yn cael aros yno ar ôl 10pm. Dywedodd Joe ei fod yn cael trafferth i ddarganfod partner rhamantus yn ogystal â chynnal cyfeillgarwch ers i’w oriau cefnogaeth gael eu torri o 24 awr yr wythnos i 7 awr. Mae Gary Bourlet o Anabledd Dysgu Lloegr yn siarad am ba mor bwysig ydy perthnasoedd i bobl gydag anabledd dysgu ‘bod yn unig ydy beth sydd yn lladd pobl. I gael perthynas – dydych chi ddim yn unig bellach. Mae’n bopeth’.

Pam ei bod yn anodd i bobl gydag anabledd dysgu gael perthnasoedd?

Felly pam ei bod yn anodd i bobl gydag anabledd dysgu gael perthnasoedd rhamantus? Yn aml dydyn nhw ddim yn cael digon o gefnogaeth i fyw’n annibynol. A hefyd mae gweithwyr cefnogi yn aml yn poeni am leihau risg yn fwy na gadael i bobl gydag anabledd dysgu wneud eu penderyfniadau eu hunain. Yn aml dydy pobl gydag anabledd dysgu ddim yn cael eu trin fel oedolion cyflawn a does dim ymddiriedaeth i adael iddyn nhw wybod beth sydd yn bwysig iddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn cael aros allan cyn hired ag y maen nhw eisiau neu dydyn nhw ddim yn cael partneriaid i aros gyda nhw yn y lle maen nhw’n byw. Yn aml ychydig o addysg rhyw y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei dderbyn, os o gwbl, a dydy staff cefnogi ddim wedi derbyn hyfforddiant i gefnogi eu cleientiaid i drafod perthnasoedd a rhyw, sydd ar adegau yn gallu bod yn ddyrys.

Ein gwaith i bobl gydag anabledd dysgu a pherthnasoedd

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn credu bod gan pob person gydag anabledd dysgu yr hawl i gael eu gwerthfawrogi a’u parchu, i fyw bywyd ystyrlon, i gael rheolaeth dros eu bywydau ac i gael ffrindiau, perthnasoedd a bywyd cymdeithasol. Wrth wrando ar y bobl yn siarad ar BBC Breakfast fe wnaethom gydnabod y rhwystrau roedden nhw’n siarad amdanyn nhw. Rydym yn gwybod o brofiad ein haelodau pa mor anodd ydy gwneud ffrindiau a chael perthnasoedd rhamantus a rhywiol pan nad ydy’r gefnogaeth rydych chi’n ei dderbyn wedi ei lunio i’ch helpu gyda hyn.

Dyna pam ein bod bod yn rhedeg nifer o brosiectau ar hyn o bryd sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu i gymdeithasu ac i gael cariad.

Ffrindiau Gigiau Caerdydd

Mae Ffrindiau Gigiau yn dod â gwirfoddolwyr a phobl gydag anabledd dysgu sydd yn rhannu’r un diddordebau at ei gilydd. Yna mae’r gwirfoddolwyr a’r cyfranogwyr yn mynd i gigiau a digwyddiadau eraill gyda’i gilydd. Rydyn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol yn rheolaidd i gyfranogwyr a gwirfoddolwyr lle mae pobl yn cael cyfle i gyfarfod ei gilydd ac i gael hwyl gyda’i gilydd.

Love Life

Mae Love Life yn debyg i Garu gyda Chefnogaeth a gafodd ei ddangos ar y rhaglen. Gyda chyrff eraill ar draws Ewrop rydym yn datblygu rhaglen hyfforddi ar berthnasoedd a rhywioldeb wedi’i anelu at gefnogi staff a gofalwyr teulu. Fel rhan o’r rhaglen rydym yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu i ddod yn gyd-hyfforddwyr i ddarparu’r hyfforddiant yng Nghymru.

Gweithio ar y cyd gyda Rhieni

Roedd Gweithio ar y cyd gyda Rhieni yn cefnogi rhieni gydag anabledd dysgu ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i wella’r gefnogaeth iddyn nhw. Fe wnaethom hyn drwy ddwyn eiriolwyr, gweithwyr proffesiynol a rhieni gydag anabledd dysgu at ei gilydd i rannu arfer da a gweithio tuag at gael y gefnogaeth gywir.

Mae cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth

Rydym wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth rhyfeddol y mae gallu cymdeithasu a chael cariad yn ei gael ar lesiant, hyder a hapusrwydd cyffredinol pobl a pha mor drist a dinistriol ydy unigrwydd. Mae’n wych bod y BBC yn tynnu sylw at y pwnc pwysig yma.

Er mwyn galluogi pobl gydag anabledd dysgu i gael hawl i berthnasoedd, cariad a rhyw mae angen inni sicrhau rhagor o ymwybyddiaeth a bod cefnogaeth ar gael iddyn nhw. Mae hyn yn golygu hyfforddi gweithwyr cefnogi a gofalwyr i barchu a chefnogi pobl gydag anabledd dysgu yn eu bywyd cymdeithasol a’u bywyd carwriaethol. Mae BBC Breakfast yn crybwyll canllaw ar ryw a pherthnasoedd i bobl sydd yn byw mewn gofal oedolion yn Lloegr a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn gynharach eleni.  Dylai canllaw fel hwn fod ar gael yn gyffredinol ar draws y DU ac fe ddylai fod yn rhan gorfodol o hyfforddiant a chanllawiau gofal. Rhaid i fyw’n annibynnol gael ei gyllido’n gywir hefyd. Yn ymarferol mae hyn yn golygu sicrhau bod gan bobl gydag anabledd dysgu ddigon o oriau gwaith cefnogi a bod gan weithwyr cefnogi a gofalwyr amodau gwaith i sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gwaith yn dda.

Grace Krause
Swyddog Polisi, Learning Disability Wales

Twitter @Grace_LDW.