Rydyn ni’n rhedeg gweithdai yn ein cynhadledd flynyddol eleni yng ngogledd a de Cymru.

Mae gwybodaeth am ein holl weithdai isod ar gyfer 16 Tachwedd yng Nghasnewydd.

Gweithdai yn ein Cynhadledd Flynyddol ar 16 Tachwedd, Casnewydd – ‘Lle rydyn ni’n mynd o fan hyn?’

Dimensions Cymru – Lle rydyn ni’n mynd o fan hyn neu yno?

Ers 2020 mae pob un ohonom wedi mynd drwy lawer ac wedi dioddef cyfyngiadauMae “mynd yn ôl i  normal” yn rhywbeth rydyn ni’n clywed llawer amdano.Beth ydy “normal”?I lawer o bobl doedd bywyd cyn y pandemig ddim yn wych. Ydyn ni eisiau mynd yn ôl i hynny?

Engage to Change – Cefnogi pobl i waith

Mae pobl gydag anabledd dysgu a phobl awtistig yn gallu gweithio os oes ganddyn nhw y swydd gywir a’r gefnogaeth gywir. Fe fydd y gweithdy yma yn siarad am sut mae Engage to Change wedi helpu pobl ifanc i gael gwaith yng Nghymru ac fe fyddwch yn clywed gan bobl ifanc oedd ar y prosiect. Hoffem glywed eich barn am gyflogaeth a beth rydych chi’n feddwl. Beth ydy’r pethau fyddai yn eich helpu chi i godi’r gyfradd cyflogaeth wrth inni symud ymlaen ar ôl Covid?Engage to ChangeDydd Mercher, 16 Tachwedd, Casnewydd

Anabledd Dysgu Cymru – Edrych ar ôl ein hunain

Yn y Gweithdy hwn byddwn yn trafod i ba raddau y newidiodd bywyd yn ystod y pandemig a dulliau pobl i allu teimlo’n dda a gofalu am eu hunain.

Byddwn yn trafod iechyd meddwl da a llesiant a pham eu bod nhw mor bwysig. Byddwn hefyd yn trafod beth sy’n digwydd i’n cyrff ac i’n hymennydd pan rydym dan bwysau.

Yna byddwn yn dysgu sut all Ymwybyddiaeth Ofalgar fod o gymorth a chwblhau sesiwn fer ar hynny.

Mirus – Datblygu rhwydweithiau personol a chymunedol

Wrth ddod allan o’r pandemig dywedodd pobl wrthym mai beth oedd fwyaf pwysig iddyn nhw oedd cyfarfod ffrindiau a chysylltu eto gyda’r cymunedau maen nhw’n rhan ohonyn nhw. Roedd rhai pobl eisiau mynd yn ôl i beth roedden nhw’n ei wneud cyn y pandemig tra roedd pobl eraill eisiau ceisio rhoi cynnig ar bethau newydd a chyfarfod pobl newydd.

Fe fydd y gweithdy yma yn rhannu rhai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud i helpu i ddatblygu rhwydweithiau personol a chymdeithasol pobl. Fel rhan o’r gweithdy fe fyddwn yn rhannu rhai enghreiffitau bywyd go iawn gan y bobl rydyn ni yn eu cefnogi. Fe fyddwn yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl a hoffem glywed barn pobl am beth rydyn ni’n ei wneud ac unrhyw beth y gallwn ei ystyried ar gyfer y dyfodol.

 

Noddir ein holl weithdai yn ein cynhadledd gan: Drive, Mirus, Pobl, and Shared Lives Plus.