Mae’n braf iawn gennym gyhoeddi bod ein bwrdd ymddiriedolwyr wedi gwneud penderfyniad unfrydol heddiw i benodi Zoe Richards yn Brif Swyddog Gweithredol parhaol Anabledd Dysgu Cymru.

Wrth gyhoeddi penodiad Zoe, dyma ddywedodd Phil Madden, Cadeirydd Anabledd Dysgu Cymru: “Mae’r bwrdd ymddiriedolwyr yn falch iawn o roi gwybod i’n haelodau a’n rhanddeiliaid fod Zoe Richards wedi cael ei phenodi’n Brif Swyddog Gweithredol parhaol yn Anabledd Dysgu Cymru.

“Fe gamodd Zoe i’r swydd Prif Swyddog Gweithredol dros dro ar ddiwedd mis Mawrth 2019 ac mae wedi arwain y sefydliad yn ystod cyfnod o adolygu a chynllunio at y dyfodol. Rydym, felly, yn hynod falch o gael gwneud y penodiad hwn.”

Daw’r newydd hwn wrth i Anabledd Dysgu Cymru gyhoeddi ein strategaeth newydd ar gyfer y bum mlynedd nesaf  – ein gweledigaeth i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i fyw, dysgu a gweithio ynddi i bobl sydd ag anabledd dysgu.

Gallwch lawrlwytho ein strategaeth pum mlynedd newydd yma

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol newydd ynghylch y flwyddyn a aeth heibio ym mywyd Anabledd Dysgu Cymru

Photo of Zoe smiling at work