Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi cyhoeddi strategaeth newydd hir dymor sydd yn cefnogi ein gweledigaeth o Gymru yn dod y wlad orau yn y byd i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.

Mae ein strategaeth newydd yn ganlyniad i ymgynghoriad blwyddyn gyfan gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru, o bobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd, i weithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau sydd yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu. Mae’r strategaeth yn nodi ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn cynnwys tri maes blaenoriaeth (a gaiff ei adolygu ar ôl dwy flynedd): Iechyd a llesiant, Addysg a Chyflogaeth.

Wrth lansio ein strategaeth newydd dywedodd Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro:

“Rydym yn lansio ein strategaeth 5 mlynedd ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru gyda brwdfrydedd. Bu’n flwyddyn o fyfyrio a gwthio ffiniau i ddeall yn well y byd newydd ansicr rydym yn byw ynddo a sut mae pobl gydag anabledd dysgu yn gallu byw mewn Cymru sydd yn newid, tra’n gwneud cyfraniadau gwerthfawr i gymdeithas heddiw.

“Fis Tachwedd diwethaf fe ddechreuom holi beth oedd ein rhanddeiliaid ei angen ac eisiau gan Anabledd Dysgu Cymru. Wrth ddwyn yr ymatebion hyn ynghyd cawsom lwybr clir i fodelu ein gwaith arno dros y pum mlynedd nesaf. Mae ein haddewid i barhau i gyd-greu gyda’n rhanddeiliaid yn allweddol i’r strategaeth, fel ag y mae cael mwy o brsenoldeb mewn cymunedau yng Nghymru a gweithio gyda’r gymdeithas ehangach i leihau’r stigma y mae pobl gydag anabledd dysgu yn parhau i’w wynebu.

“Mae ein strategaeth yn amlinellu ein meysydd blaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf, sef Iechyd a Llesiant, Addysg a Chyflogaeth, tra’n rhoi gwybod i chi sut y byddwn yn gwneud newidiadau i sicrhau ein bod ar y blaen wrth sicrhau mai Cymru ydy’r wlad orau i berson gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.

Adroddiad Blynyddol

“I gyd-fynd gyda chyhoeddiad ein strategaeth newydd rydym hefyd wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019, a fydd yn eich tywys ar daith o gyflawniadau ac uchafbwyntiau y llynedd. Mae yna nifer o luniau sydd yn adrodd miloedd o straeon  am fywydau pobl. Fel bob amser, rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau ar ein strategaeth newydd a’n hadroddiad blynyddol. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy e-bostio enquiries@ldw.org.uk.”

Gallwch lawrlwytho ein strategaeth 5 mlynedd newydd a fersiwn hawdd ei ddeall o’r strategaeth yma

Gallwch lawrlwytho ein hadroddiad blynyddol newydd yma.