Mae’r cwrs yma yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddefnyddio Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ein bywydau ein hunain a hefyd fel dull o gefnogi pobl eraill. Mae’r cwrs yma yn edrych ar sut yr ydym yn ymdopi gyda straen a sut y gallwn ddeenyddio Ymwybyddiaeth Ofalgar i helpu i leihau’r e aith y mae’n ei gael ar ein bywydau ac ar fywydau’r bobl o’n cwmpas. Fe fyddwn yn edrych ar Gynllunio wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn fel dull o gefnogi pobl ag anabledd dysgu i ddefnyddio Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y  ordd sydd yn gwneud y mwyaf o synnwyr iddyn nhw. Fe fydd y cwrs yn dangos sut y gall Ymwybyddiaeth Ofalgar fod yn sgil defnyddiol wrth gefnogi unrhyw un ag anabledd dysgu.

Fe fydd y cwrs yn:
• darparu dealltwriaeth sylfaenol o Ymwybyddiaeth Ofalgar
• darparu dealltwriaeth sylfaenol o sut y gall Cynllunio wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn helpu wrth gyfl wyno technegau Ymwybyddiaeth Ofalgar i unigolion a grwpiau
• dysgu rhai technegau Ymwybyddiaeth Ofalgar i gyfranogwyr er mwyn eu defnyddio gartref ac yn y gweithle.
• Dysgu o er Cynllunio wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn i gyfranogwyr a fydd yn gymorth iddyn nhw wrth gyfl wyno technegau Ymwybyddiaeth Ofalgar i unigolion a grwpiau.
Cyfl wyniad i Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae’r cwrs yn cynnwys:
• hanes byr o Ymwybyddiaeth Ofalgar
• ymarferion Ymwybyddiaeth Ofalgar i unigolion a grwpiau
• trosolwg o Gynllunio wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn
• sgiliau Cynllunio wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn sy’n gweithio’n dda ochr yn ochr ag Ymwybyddiaeth Ofalgar
• rhai technegau a dulliau gweithredu – sut y mae Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer pawb
• ymdopi gyda Straen
• ymchwil cyfredol a straeon a phrofi adau perthnasol.

Ar gyfer
Mae’r cwrs ar gyfer pobl sy’n darparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu: teuluoedd, gofalwyr (cyfl ogedig a di-dâl),  cyr preifat/gwirfoddol ac awdurdodau lleol. Mae croeso i unigolion ag anableddau dysgu hefyd. Mae ymwybyddiaeth
o Gynllunio wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn yn ddymunol ond nid yw hynny’n hanfodol.
Nodyn cynghori: Mae’r cwrs hwn yn dechrau archwilio straen a sut i ymdopi gyda straen ac oherwydd hynny gall godi emosiynau all fod yn anodd i rai pobl. Fe fydd y cwrs yn edrych ar ddulliau i reoli meddyliau a theimladau ond efallai y bydd unrhyw un sy’n cael anhawster yn dymuno trafod hyn naill ai gyda rhywun agos atyn nhw neu gyda’u Meddyg Teulu.