Rydyn ni eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl gydag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio ynddi. Mae ein gwaith polisi yn chwarae rhan ganolog yn hyn drwy ddylanwadu ar y llywodraeth fel bod pobl gydag anabledd dysgu yn gallu mwynhau yr un hawliau â phawb arall yng Nghymru.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff pobl anabl a’r sector gwirfoddol er mwyn inni allu creu Cymru well i’r holl bobl gydag anabledd dysgu.

Mae gwaith polisi yn rhan canolog o gyflawni’r weledigaeth yma. Rydyn ni’n gweithio’n brysur i:

  • Creu cymdeithas sydd yn cynnwys, yn gwerthfawrogi ac yn parchu pobl gydag anabledd dysgu.
  • Creu system addysg gynhwysol i blant ac oedolion gyda a heb anabledd dysgu.
  • Cau’r bwlch cyflogaeth anabledd dysgu.
  • Creu system wleidyddol lle mae deddfau, polisïau ac arferion yn cael eu cydgynhyrchu gyda phobl ag anabledd dysgu a lle mae gan bobl anabl reolaeth gwirioneddol mewn gwneud penderfyniadau am faterion sydd yn effeithio arnyn nhw.
  • Sicrhau bod gan bobl gydag anabledd dysgu reolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Edrychwch i weld beth yw’r diweddaraf o ran ein gwaith polisi yn ein hadran newyddion a’n tudalennau cymdeithasol ar Twitter a Facebook.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith polisi cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n Swyddog Polisi  Grace Krause. E-bost grace.krause@ldw.org.uk neu ffôn 029 2068 1160.