Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gefnogaeth wedi’i ganoli ar y person ar gyfer pobl awtistig

Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth Gwasanaeth Awtistiaeth. 

Rydym yn ymateb gydag aelodau eraill y Consortiwm Anabledd Dysgu (Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Cymorth Cymru) a’r prosiect  Engage to Change: (Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Agoriad Cyf, Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE a Chanolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd)

Pwyntiau allweddol ein hadborth ydy:

 

  • Rydym yn croesawu canllawiau yn gwneud gwasanaethau prif ffrwd yn fwy hygyrch i bobl awtistig;
  • Ymddengys bod llawer o’r Cod yn seiliedig ar y model meddygol o anabledd. Er mwyn rhoi gwir gefnogaeth i bobl awtistig mae angen i’r Cod gael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd;
  • Hoffem fod wedi gweld mwy o ffocws ar hawliau pobl anabl a rôl eiriolaeth i’w cefnogi i ymladd dros eu hawliau;
  • Dylid crybwyll hunaneiriolaeth yn gliriach a rhoi mwy o bwyslais arno;
  • Dylai prif bwrpas gwasanaethau ataliol fod ar wella ansawdd bywyd, nid yn unig gostwng costau;
  • Rydym yn falch o weld hyblygrwydd yn cael ei gadarnhau er mwyn gwneud pontio i wasanaethau oedolion yn fwy llyfn a hoffem weld hyd yn oed mwy o hyblygrwydd na’r hyn a grybwyllir ar hyn o bryd;
  • Mae’r ffocws cryf ar godi ymwybyddiaeth yn addawol. Hoffem weld ymrwymiad i hunaneiriolaeth yma;
  • Mae’n addawol bod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar faterion rhyngadrannol a sut mae awtistiaeth a chael nodweddion gwarchodedig eraill yn gorgyffwrdd. Ond, dydy hi ddim yn glir sut mae cydnabyddiaeth o’r materion yma yn trosi yn newidiadau ymarferol.

Gellir lawrlwytho’r ymateb llawn yma yn Saesneg (Autism COP response PDF).

Mae fformatau eraill a chyfieithiad Cymraeg ar gael wrth ofyn am hynny.

 

Am gwestiynau a rhagor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Grace Krause yn Grace.Kause@LDW.org.uk