Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi croesawu adroddiad newydd sy’n galw i rieni ag anabledd dysgu a’u plant i gael cymorth gwell. Mae’r argymhellion, sy’n cynnwys canllawiau cenedlaethol newydd a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, yn rhan o adroddiad ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar nifer y plant yng Nghymru sy’n cael eu rhoi mewn gofal oddi wrth rieni ag anabledd dysgu, a’r rhesymau y tu ôl i’w tynnu oddi wrth eu rhieni. 

Rydym wedi lobïo ers sawl blwyddyn i dynnu sylw at yr angen am ganllawiau yng Nghymru ar sut i gefnogi rhieni ag anabledd dysgu, yn enwedig drwy’r gwaith a wnaethom yn ein prosiect partneriaeth Rhwydwaith Cydweithio â Rhieni.

Adroddiad ymchwil

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd adroddiad ymchwil oedd yn edrych ar y rhesymau pam mae plant i rieni ag anabledd dysgu yn cael eu symud i mewn i ofal, a p’un a yw rhieni ag anabledd dysgu yn cael eu gorgynrychioli o fewn gwasanaethau cymdeithasol plant. Cynhaliodd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brookes yr ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru.

Canfyddiadau

Edrychwyd ar bum ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd rhai canfyddiadau’n cynnwys:

  • Nid oedd digon o wybodaeth ddibynadwy na chasgliad cyson o ddata i farnu i ba raddau y mae rhieni ag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys neu eu gorgynrychioli o fewn gwasanaethau cymdeithasol plant.
  • Anaml iawn mai bod ag anabledd dysgu oedd yr unig bryder pan gyfeiriwyd rhieni at y gwasanaethau cymdeithasol ac i blant gael eu cymryd i ofal. Roedd y rhesymau yn fwy cymhleth gan gynnwys rhieni â phroblemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu gam-drin domestig.
  • Mae gwasanaethau cymdeithasol a diwylliannau a systemau llys yn rhoi rhieni dan anfantais o ran yr amser maen nhw’n ei gael i brofi eu hunain fel rhieni effeithiol.
  • Weithiau cwblhawyd asesiadau arbenigol yn hwyr neu gan rywun dibrofiad.
  • Roedd ambell i arfer da lle roedd rhieni ag anabledd dysgu yn cael eu cefnogi’n effeithiol i ofalu am eu plentyn, ond mae lle i wella.

Argymhellion

Mae’r Argymhellion yn cynnwys:

  • Datblygu diffiniad cenedlaethol o anabledd dysgu er mwyn gallu cofnodi data yn gyson.
  • Gwybodaeth hygyrch i’w rhoi i rieni sy’n ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol a’r llysoedd.
  • Canllawiau a hyfforddiant i weithwyr cymdeithasol ar sut i nodi rhieni ag anabledd dysgu, cyfathrebu, pryd y dylid darparu eiriolaeth ac arfer gorau mewn asesiadau.
  • Cydweithio rhwng gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant
  • Cymorth cynnar i rieni.
  • Gwasanaethau cymorth mwy cyson.

Rhwydwaith Cydweithio â Rhieni

Nod ein prosiect partneriaeth Cydweithio â Rhieni yng Nghymru, a ddaeth i ben ym mis Awst 2019, oedd gwella’r cymorth i rieni ag anabledd dysgu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.  Yn ogystal â lobïo am ganllawiau newydd, rydym hefyd wedi gweithio a lobïo am welliannau sydd wedi codi yn yr adroddiad. Gan gynnwys:

  • Dylai gwasanaethau plant ac oedolion weithio gyda’i gilydd i gytuno ar brotocolau ar y cyd ar gyfer atgyfeiriadau, asesiadau a llwybrau gofal. Mae’n rhaid nodi anghenion cyn gynted â phosibl, gorau oll os gellir gwneud hyn pan fo beichiogrwydd yn cael ei gadarnhau.
  • Mae angen gwybodaeth ar rieni ag anabledd dysgu ar ffurf y gallant ei deall oherwydd efallai bod ganddynt sgiliau llythrennedd isel neu anawsterau cyfathrebu.
  • Mae angen addasu rhaglenni rhianta i anghenion penodol rhieni ag anabledd dysgu.
  • Dylai’r cymorth fod yn barhaus ac yn y hirdymor.
  • Dylai pob rhiant gael mynediad at eiriolwr annibynnol os yw eu plant yn destun achos amddiffyn plant a/neu achosion gofal.
  • Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol fel gweithwyr cymdeithasol, ymwelwyr iechyd a staff llys. Rydym yn falch o ddarparu rhywfaint o hyfforddiant amrywiaeth i’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS).

Talu am eiriolwyr annibynnol

Ym mis Rhagfyr, roedd dyfarniad pwysig i’w groesawu yn ddiweddar gan yr Uchel Lys a oedd o’r farn bod gan ddau riant ag anabledd dysgu hawl gyfreithiol i eiriolaeth annibynnol wedi’i ariannu.