Rydyn ni eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.  

Oherwydd dyrchafiad mewnol, rydyn ni bellach yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu newydd i ymuno â’n Prosiect Engage to Change.

Cyflog £25,510 i £28,732 (37 awr yr wythnos) Gradd Cyflog 5 ADC + Pensiwn

Ar hyn o bryd mae prosiect Engage to Change yn rhedeg ledled Cymru gyfan i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed gydag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd ac ennill cyflogaeth â thâl.

Arweinir y prosiect, a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, gan Anabledd Dysgu Cymru mewn partneriaeth ag asiantaethau cyflogaeth â chymorth ELITE ac Agoriad, sefydliad hunan-eiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn chwarae rôl ganolog mewn cydlynnu gweithgareddau cyfathrebu allanol y prosiect.  Os mai brodor digidol ydych chi, bod gennych chi sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog, gorau oll yn y Gymraeg ac yn Saesneg, a gallwch chi arddangos yn hyderus storïau cyfranogwyr Engage to Change ledled Cymru trwy amrywiaeth o sianeli, yna hoffen ni glywed oddi wrthoch chi.

Oherwydd mai swydd amser llawn yw hwn, ystyrir rhannu’r swydd efallai.  Ar hyn o bryd, cyllidir y swydd tan 30 Tachwedd 2022.

I Gynnig:

I ddarganfod mwy am y rôl, cysylltwch ag Angela Kenvyn, Rheolwr y Prosiect:

E-bost: angela.kenvyn@ldw.org.uk

Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, lawrlwythwch y canlynol os gwelwch yn dda:

Gellir derbyn ceisiadau mewn fformat sain/fideo os yw’n well gennych chi.  Os oes angen gwneud eich cais mewn fformat arall, rhowch wybod i ni.

Dyddiad Cau a chyfweliadau:

Dyddiad Cau:  Dydd Llun19 Ebrill 2021.

Cyfweliadau: Digwyddant ar Zoom ddiwedd mis Ebrill.  Cadernheir dyddiadau gyda chi os byddwch chi’n llwyddiannus.

Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau gyda’r label ‘Recriwtio’ i:

E-bostiwch ef i: enquiries@ldw.org.uk

Neu

Rheolwr Adnoddau Dynol a Llywodraethiant
Anabledd Dysgu Cymru
41 Lambourne Crescent
Parc Busnes Caerdydd
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GG

Cyflogwr cyfleoedd cyfartal yw Anabledd Dysgu Cymru ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled Cymru.

Croesawn ni ymgeiswyr o bob rhan o Gymru ac oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a phobl sydd â phrofiad byw perthnasol.

Gwarantwn ni gyfweliad i ymgeiswyr anabl sydd yn cwrdd â’r meini prawf hanfodol.

 

The National Lottery Community Fund and Welsh Government Logos