Blog y Prif Swyddog Gweithredol: Mae cau sefydliadau anabledd dysgu a gwasanaethau cymorth yn ddiweddar yn duedd bryderus

Mae ein Prif Swyddog Gweithredol Zoe Richards yn tynnu sylw at dueddiad bryderus rydym ni’n ei gweld yng Nghymru: cau nifer o sefydliadau anabledd dysgu, timau ymchwil a gwasanaethau cymorth. Mae hyn yn hynod bryderus o ystyried bod eu cau yn digwydd yn ddiarwybod i raddau helaeth. Fel sefydliad aelodaeth sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu … Continued

Cyhoeddiad budd-daliadau anabledd: Beth mae’n ei olygu i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd?

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ddiwygio’r system nawdd cymdeithasol trwy wneud y toriadau mwyaf i fudd-daliadau anabledd erioed. Gallai hyn gael effaith sylweddol ar bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr ledled Cymru. Pam mae Llywodraeth y DU yn gwneud y newidiadau hyn? Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif nad … Continued

‘Anhygyrch, annerbyniol ac anghyfrifol’: Mae elusennau’n galw am adolygiad brys o wasanaethau gofal ymataliaeth.

Mae adroddiad diweddar (Saesneg yn unig) gan Cerebra, elusen genedlaethol sy’n helpu plant â chyflyrau’r ymennydd, yn tynnu sylw at y methiant gan bob un o’r 3 llywodraeth ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i ddarparu gwasanaethau ymataliaeth o ansawdd da i blant anabl a’u teuluoedd. Beth mae’r adroddiad ‘Anhygyrch, annerbyniol ac anghyfrifol’ yn ei gynnwys? … Continued

Cyflwyno Tammi Tonge, ein Aelod Senedd Ieuenctid newydd yng Nghymru

Rydym ni’n gyffrous i gyflwyno Tammi Tonge, ein Aelod Senedd Ieuenctid newydd yng Nghymru. Mae Tammi yn cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru rhwng Ionawr 2025 a Rhagfyr 2026. Materion allweddol Tammi yn y Senedd Ieuenctid Cymru yw: Cyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth. Heriau sy’n wynebu plant mewn gofal … Continued

Llongyfarchiadau mawr a hwyl fawr i Aled Blake

Hoffem longyfarch ein Swyddog Polisi a Chyfathrebu Aled Blake ar ei gais llwyddiannus i wneud PhD ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym i gyd mor drist yn colli aelod mor werthfawr o’r tîm ond yn dymuno’r gorau iddo i’r dyfodol ac yn edrych ymlaen at ddarllen ei draethawd ymchwil pan gaiff ei gyhoeddi!

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Ein partneriaid a'n cyllidwy