Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi croesawu tri pherson newydd i’n tîm staff yn ddiweddar.  Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn clywed oddi wrthyn nhw i gyd, ac rydyn ni’n parhau heddiw gyda Julie Jones, sydd wedi ymuno â’n tîm hawdd ei darllen fel ein swyddog gwybodaeth hygyrch newydd.

“Dw i’n falch iawn mod i’n gallu ymuno â’r tîm yn Anabledd Dysgu Cymru.  Dw i’n gweithio ar fy liwt fy hun gyda’r sefydliad ers sawl blwyddyn ar y gwasanaeth hawdd ei darllen a gyda’r adran hyfforddi.  Grŵp o bobl selog ac ymroddgar ydyn nhw, felly mae’n braf bod yn rhan o’r tîm yn swyddogol!

“Dw i wir yn llawn cyffro i ymuno â’r gwasanaeth hawdd ei darllen, sy’n cyflawni gwaith mor bwysig yng Nghymru.  Hawl dynol yw cyrchu gwybodaeth gallwch chi ei ddeall.  Mae ein gwasanaeth hawdd ei darllen yn cefnogi’r hawliau hyn i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru trwy gynhyrchu gwybodaeth hygyrch ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o Sefydliadau.  Rydyn ni’n cael gweithio ar fathau gwahanol o ddogfennau, felly gall fod yn eithaf amrywiol.

“Pan nad dw i’n gweithio i Anabledd Dysgu Cymru, dw nail ai yn darparu hyfforddiant am iechyd meddwl a lles neu wasanaethau therapy i bobl fel hypnotherapydd gyda’r ffocws ar atebion.  Dw i wir yn frwd dros helpu pobl i feddwl mwy am eu hiechyd meddwl a lles a meddwl am yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud i ofalu amdano fe a’i wella.

“Weithiau mae pobl yn synnu pan dw i’n dweud wrthyn nhw mai hypnotherapydd dw i.  Mae hyn yn digwydd oherwydd y gwybodaeth gwael amdano fe yn gyffredinol.  Mae’re math o hypnotherapi dw i’n ymarfer yn helpu pobl i ymlacio a delio â’u problemau gyda’u bryd gorau.

“Pan nad dw i’n gweithio, dw i’n hoffi treulio amser gyda’m partner, Kai, a’n ci Patches.  Rydyn ni’n hoffi mynd am droeon ac ar deithiau i’r cefn gwlad.”