Pan ddechreuodd cyfyngiadau symud Covid 19 ym mis Mawrth yng Nghymru eleni roedd llawer o bobl yn poeni am beidio â gallu siarad a chysylltu â phobl eraill yn y ffyrdd roedden ni’n gyfarwydd â nhw, o ran eu gwaith a’u bywyd personol.

Allgáu digidol

Roedd y pryderon hyn yn arbennig o gryf ar gyfer pobl ag anabledd dysgu sydd eisoes yn profi mwy o ynysu. Gyda’n gyda’n gwaith a’n cyfathrebu yn mynd ar-lein ychwanegir at bryderon am allgáu digidol pobl ag anabledd dysgu.

Roedd y pryderon yn ymwneud â mwy na’r dechnoleg, sut i’w chael a sut i’w defnyddio, ond hefyd yn ymwneud â sut y gallwn ddefnyddio technoleg i ymateb i wahanol anghenion a dewisiadau o ran cyfathrebu. Fe wnaethon ni sylweddoli bod angen i ni ymateb yn gyflym a chysylltu â’n haelodau i ganfod rhai o’r problemau a dysgu oddi wrth y naill a’r llall.

Fe wnaethom sefydlu tudalen adnoddau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a’u cefnogwyr sy’n cynnwys canllawiau hawdd eu deall i dechnoleg a chadw mewn cysylltiad ar-lein. Rydym hefyd wedi creu cyfarwyddiadau hawdd eu deall ar gyfer defnyddio Zoom .

Rhannu profiadau

Daeth Cymuned ymarfer Technoleg Bersonol Cymru Gyfan Anabledd Dysgu Cymru at ei gilydd ar-lein gan ddefnyddio Zoom ar 20 Mai 2020.  Daeth dros 20 o bobl a sefydliadau ar-lein i edrych ar yr hyn sy’n digwydd, beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a ble rydyn ni’n mynd o’r fan hyn. Clywsom gan grwpiau hunan eiriolaeth, pobl ag anabledd dysgu, darparwyr tai â chymorth, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Aeth y cyfarfod yn dda ond wrth gwrs roedd problemau yn ymwneud â chysylltiad â’r rhyngrwyd i rai pobl!

Y newyddion da

Y newyddion da yw ei bod yn ymddangos bod sefydliadau a phobl ar draws Cymru wedi wynebu’r her gyda brwdfrydedd. Nid yw wedi bod yn hawdd ond nid yw hynny wedi troi pobl i ffwrdd o weithio’n galed i gwrdd â phobl a’u cefnogi mewn ffyrdd newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cynadledda fideo a gwasanaethau sgwrsio ar-lein yn bennaf.

Rydym wedi clywed bod cael ein gorfodi i weithio yn y ffordd hon wedi datgelu bod rhai pobl yn ffafrio’r dulliau hyn, felly mae cyfathrebu wedi gwella.  Mae hwn yn un o’r ymylon arian y mae nifer o sefydliadau am barhau ag ef unwaith y bydd y cyfyngiadau symud wedi dod i ben.

Y newyddion drwg

Fodd bynnag, mae pryderon cryf bod rhai pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gadael ar ôl a’u hallgáu, ac mae nifer o resymau dros hyn.

Yn gyntaf, mae’r bobl angen y dechnoleg yn eu dwylo, felly mae pobl angen yr arian i’w brynu eu hunain neu ddarparwr cymorth sy’n fodlon ei ddarparu.

Pan fydd gennych chi’r dechnoleg mynd ar y rhyngrwyd yw’r rhwystr nesaf.  Mae’n destun pryder ein bod yn dal i glywed hanesion rhai darparwyr gwasanaeth yn cadw pobl oddi ar lein yn fwriadol, yn bennaf oherwydd amharodrwydd i ymdrin â risg mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn neu oherwydd nad yw’r staff yn meddwl yn dechnolegol eu hunain.  Yn y bôn, mae hyn yn gwadu hawliau dynol unigolyn. Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau yn gwneud y peth iawn ond yn dal i wynebu problemau gyda chysylltiadau gwael â’r cartref ac eiddo. Rydym wedi clywed rhai straeon lle mae’r teulu wedi stopio’r person ag anabledd dysgu rhag defnyddio llwyfannau ar-lein, hefyd oherwydd eu bod yn poeni am fod yn ddiogel ar-lein.

Y mater nesaf mae pob un ohonom wedi gorfod delio ag ef yw dysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg.  Gydag ychydig fisoedd o rybudd, gallen ni fod wedi eistedd gyda’n hanwyliaid, y bobl rydyn ni’n eu cefnogi a’n cydweithwyr i addysgu a dysgu oddi wrth ein gilydd yn y ffyrdd rydyn ni wedi arfer â nhw.  Ond, daeth cyfyngiadau symud Covid 19 yn gyflym felly mae cefnogi pobl i ddefnyddio’r dechnoleg o bell wedi bod yn broblem, ac yn broblem o hyd.

Beth mae pobl yn ei ddefnyddio

O’r holl dechnoleg y dywedodd pobl wrthym eu bod yn defnyddio, roedd y  mwyafrif helaeth yn dechnolegau prif ffrwd oedd yn bodoli eisoes Zoom, WhatsApp, Facebook, Skype, Microsoft teams ac ati.  Roedd cwmnïau telathrebu wedi cysylltu â rhai sefydliadau gan gynnig cymorth ac ar gyfer un sefydliad, fe wnaethon nhw flaenoriaethu’r gwaith o gyflwyno eu ap cyfryngau cymdeithasol personol eu hunain ar gyfer y bobl maen nhw’n cefnogi.

Beth wnaethon ni ei ddysgu?

Felly beth wnaethon ni ei ddysgu yn gryno?

  • Mae pobl wedi ymdrechu’n galed i gefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu i fynd ar-lein a chyfathrebu drwy ddefnyddio technoleg newydd.
  • Mae technolegau prif ffrwd presennol yn gweithio’n dda, ond dim ond os oes cymorth priodol ar gael.
  • Nid yw allgáu digidol a thechnolegol wedi diflannu, gan adael llawer o bobl wedi’u torri i ffwrdd o’r byd y tu allan.
  • Pan ddaw’r cyfyngiadau symud i ben bydd llawer o bobl yn dewis parhau i ddefnyddio’r dechnoleg a’r sgiliau maen nhw wedi cael eu gorfodi i’w defnyddio oherwydd yr argyfwng.