Mae’n bleser gan Anabledd Dysgu Cymru groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm. Yn nes ymlaen yr wythnos yma fe fyddwn yn clywed oddi wrth Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol ar gyfer ein prosiect  Engage to Change. Heddiw rydym yn croesawu Sophie Williams, sydd yn dechrau yn ei rôl fel Swyddog Cyfathrebu i Engage to Change.


Rydw i wrth fy modd yn dechrau yn fy rôl fel Swyddog Cyfathrebi i’r prosiect Engage to Change.

Rydw i’n edrych ymlaen i hyrwyddo’r cyfleoedd a’r gefnogaeth ardderchog y mae Engage to Change yn eu cynnig i bobl ifanc ac rydw i’n gobeithio annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn y prosiect. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen i weithio’n agos gyda phartneriaid Engage to Change ac ymweld â rhai o’r lleoliadau gwaith maen nhw’n eu cynnig..

Un o fy nodau wrth ddechrau yn y rôl ydy amlygu’r gwaddol gwych y mae’r prosiect wedi ei greu. Yn dilyn dull y prosiect o ganoli ar y person, rydw i’n credu’n angerddol dros roi platfform i bobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr a phartneriaid lleoliadau gwaith i rannu eu profiadau am y prosiect ac rydw i’n edrych ymlaen at greu fideos a blogiau yn canolbwyntio ar eu cyflawniadau. Rydw i’n gobeitho y gallwn, drwy rannu straeon pobl, ysbrydoli eraill i gymryd rhan tra hefyd yn ein galluogi i ddathlu cyflawniad y cyfranogwyr cyfredol. Fel person niwrowahanol fy hun, rydw i’n credu’n angerddol dros gynyddu amlygrwydd pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn y gweithlu.

Cyn dechrau fy rôl gyda’r prosiect Engage to Change roeddwn yn gweithio fel Gweithiwr Ymgysylltu Cymunedol i elusen Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) lle roeddwn yn hyrwyddo eu gwasanaethau cefnogi ac yn hyfforddi busnesau a chyrff lleol ar ymwybyddiaeth o gam-drin domestig. Fel rhan o fy rôl, roeddwn yn frwdfrydig ynghylch cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau bod rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i’r gwasanaeth yn gostwng er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb.

Cyn hynny, roeddwn yn dysgu mewn lleoliadau dysgu oedolion lle rydw i wedi cefnogi amrediad o ddysgwyr 14-84 oed ac mae gennyf brofiad o weithio gyda dysgwyr gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Rwyf yn angerddol ynghylch dysgu gydol oes a sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn agored i bawb a sicrhau nad oes neb yn cael eu hethrio o addysg.

Y tu allan i’m gwaith rydw i wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu, boed er pleser neu fel rhan o fy astudiaethau fel myfyrwraig rhan amser. Rydw i’n mwynhau pob math o adloniant byw o deithiau i’r theatr, sioeau comedi, sioeau drag a hyd yn oed ambell i sesiwn reslo! Yn aml gallwch fy ngweld amser cinio gyda theulu, ar y traeth gyda ffrinidiau  neu gartref gyda fy mhartner hyfryd a fy  nghath.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyfathrebu am ein prosiect Engage to Change, e-bostiwch fi os gwelwch yn dda  sophie.williams@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.

Woman with long brunette hair holding up a mug and smiling