Rhwng 14 a 20 Mehefin 2021 mae’n Wythnos Anabledd Dysgu a’r thema eleni yw celf a fod y greadigol.

Cymrwch rhan yn rhai o’r digwyddiadau a rhannwch ein negeseuon ar FacebookTwitter.

 

Gig ar-lein gyda cerddoriaeth a comedi

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru wedi ymuno â’r band mawr IDLES i ehangu mynediad i ddigwyddiadau byw i bobl ag anableddau dysgu.

Gyda chomedi stand-yp gan Stewart Lee, Seann Walsh a Josh Weller a cherddoriaeth gan mclusky, Katy J Pearson, Willie J Healey, Offeiriad Teledu, Fenne Lily, Dogeyed a Wilderman.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio o’r Exchange ym Mryste ar ddydd Sul 20 Mehefin. Mae tocynnau ar gael i’w prynu nawr am rhodd awgrymedig o £5 gydag opsiwn ychwanegol i cymryd rhan yn y raffl.

Bydd yr arian a godir o’r digwyddiad yn cael ei rannu rhwng Ffrindiau Gigiau Cymru a datblygu cangen newydd o Ffrindiau Gigiau ym Mryste.

Prynu tocyn

 

Raffl Ffrindiau Gigiau Cymru

Yn dilyn y gig, ar ddydd Mawrth 22 Mehefin, bydd Ffrindiau Gigiau Cymru yn cyhoeddi ennillwyr y raffl.

Gallwch ennill:

  • Pressing Radiohead – Kid A test
  • Fender Squire Stratocaster wedi eu arwyddo gan perfformwyr y gig 
  • Celflun a pressing Ultra Mono wedi’i arwyddo gan IDLES 
  • A llawer mwy!

Canllaw Hawdd ei Ddeall ar y raffl

Prynu tocyn raffl

 

Connections Cymru

Yn Anabledd Dysgu Cymru, rydym am i bobl ag anabledd dysgu gael y cyfleoedd gorau i gysylltu â phobl a’u cymunedau felly dyna pam rydym wedi sefydlu’r rhwydwaith newydd hwn o’r enw Connections Cymru.

Bydd y rhwydwaith yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn. Bydd yn dod at ei gilydd i glywed straeon pobl, arddangos arfer da, cydweithio i greu ddatrysiadau, a chynnig her a ffocws.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar-lein ddydd Mercher 7 Gorffennaf rhwng 10am a 11.30am. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y rhwydwaith ewch i’n tudalen we Connections Cymru neu e-bostiwch karen.warner@ldw.org.uk.

 

Bod yn greadigol

Byddwn yn cyhoeddi erthyglau a diweddariadau ar ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol trwy’r wythnos, gan gynnwys darn ar fod yn greadigol yfory ac ar berthnasoedd ddydd Mercher.

Ar ben hynny, ar ddydd Mercher ymunwch â ni am sesiwn fyw ar Facebook gyda Canllaw Gig Minty a sesiwn Holi ac Ateb yn ymwneud â Ffrindiau Gigiau!

Mae Mencap hefyd wedi datblygu rhai adnoddau gwych i chi gychwyn eich Wythnos Anabledd Dysgu eleni! Dechreuwch gyda’u Pecyn Celf Print Spatter Dwylo!

 

Gwirfoddoli gyda Ffrindiau Gigiau Cymru

Cysyslltwch a’r tim ar gigbuddies@ldw.org.uk neu ar y ffon 029 2068 1160.