Mae’r wythnos yma yn Wythnos Anabledd Dysgu 2021.  Gerraint Jones-Griffiths ydy’r Llysgennad Arweiniol ar gyfer Engage to Change a dyma sut mae’n bod yn greadigol eleni.

Y thema eleni ydy celfyddydau a chreadigrwydd. Ar gyfer fy mlog y mis yma rydw i eisiau dweud wrthych chi sut rydw i yn hoffi bod yn greadigol a gobeithio eich annog chi i roi cynnig ar weithgaredd creadigol eich hun.

Dros y blynyddoedd rydw i wedi rhoi cynnig ar lawer o weithgareddau creadigol gwahanol ac wth fy modd yn chwilio am ffyrdd gwahanol o fod yn greadigol. Ar hyn o bryd un o fy mhrif ffyrdd o fod yn greadigol ydy bod yn gyflwynydd radio yn   BGFM (gorsaf radio lleol Blaenau Gwent) lle rydw i yn cynnal fy sioe fy hun bob pythefnos. Rydw i hefyd yn cyd gyflwyno gyda chyflwynydd arall yn y nos unwaith yr wythnos. Rydw i’n hoffi cael pobl eraill i gymryd rhan yn fy sioe drwy anfon ceisiadau am ganeuon neu trwy gymryd rhan mewn cwis.

person dressed in pink as lady gaga

Yn ddiweddar rydw i wedi rhoi cynnig ar ffordd newydd o fod yn greadigol gan berfformio fel brenhines drag! Rydw i wrth fy modd yn gwisgo i fyny a rhoi perfformiad ar Facebook. Fe wnaeth 1,200 o bobl wylio un perfformiad. Mae wedi bod yn ffordd dda iawn o godi calon pobl a’u diddanu yn ystod y cyfnod clo.

Ffordd arall rydw i’n ei hoffi i fod yn greadigol ydy trwy ganu, dawnsio a drama. Roeddwn i’n arfer mynd i wersi dawns a drama ac roeddwn i’n mwynhau hynny. Ar hyn o bryd rydw i’n rhan o gôr meibion Orpheus Tredegar yn yr adran bariton neu bas uchel. Mae’r côr wedi bod yn rhedeg am dros 100 mlynedd. Fi ydy’r aelod ieuengaf ar hyn o bryd ac fe fyddai’n wych gweld pobl ifanc eraill yn ymuno.

Mae bod yn greadigol a chymryd rhan yn y celfyddydau wedi fy helpu i gael mwy o hyder a bod yn fwy cymdeithasol. Mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd ardderchog a phrofiadau newydd imi. Mae cymryd rhan mewn grwpiau creadigol wedi fy helpu i gyfarfod pobl newydd a gwneud rhagor o ffrindiau. Rydw i hefyd wedi dysgu a gwella llawer o sgiliau.

Cynghorion da

Rhowch gynnig arni

Rhowch gynnig ar ffyrdd newydd o fod yn greadigol a manteisio ar gyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd. Mae’n gallu arwain at ddarganfod diddordebau creadigol rydych chi’n eu hoffi.

Rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o fod yn greadigol.

Dydy celfyddydau a cheadigrwydd ddim yn beintio a thynnu lluniau yn unig. Mae’n gallu bod yn ddawnsio, canu, ysgrifennu a pherfformio. Chwiliwch am rhywbeth sydd yn addas i chi

Cadw i fynd

Does dim rhaid i chi fod yn berffaith yn beth rydych chi yn ei wneud. Peidiwch â gadael i gamgymeriadau eich stopio rhag bod yn greadigol. Rydyn ni yn gwella ein sgiliau bob tro rydyn ni’n gwneud pethau

Cael hwyl!

Y peth mwyaf pwysig am fod yn greadigol ydy cael hwyl a mwynhau beth rydych chi’n ei wneud!