Mae gan Anabledd Dysgu Cymru bryderon dwys am  gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol (pdf). Rydym yn bryderus am y rhesymau mae’r Llywodraeth yn eu rhoi dros ddiwygio’r Ddeddf a hefyd am y newidiadau penodol sydd yn cael eu cynnig, a sut y gallant effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru  

Hawliau dynol pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru

Dywed Llywodraeth y DU mai diben y diwygiad ydy “adfer synnwyr cyffredin” ac atal “twf ‘diwylliant hawliau’ sydd wedi disodli ffocws dyledus ar gyfrifoldeb personol a budd y cyhoedd”. Dydyn ni ddim yn credu bod y rhain yn rhesymau da dros newid y gyfraith a gwanhau amddiffyniad ein hawliau dynol. Dydy hi ddim yn eglur beth mae’r Llywodraeth yn ei olygu gyda’r term ‘synnwyr cyffredin’, ond mae’n ymddangos yn synnwyr cyffredin inni mai amddiffyn hawliau dynol ydy pwrpas deddfwriaeth hawliau dynol. Rydym hefyd yn anghytuno bod yna ‘ddiwylliant hawliau’ cynyddol na chwaith y byddai’n beth drwg pe bai hynny’n bodoli.

Tra bod rhai datblygiadau rhyfeddol mewn hawliau dynol i bobl anabl yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, gwelwyd hefyd ddirywiadau trychinebus a thorri ar hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â’r pandemig coronafeirws fel a ddangoswyd yn yr adroddiad Cloi Allan a hefyd yr astudiaeth.

Byw drwy’r pandemig: Effaith Covid 19 ar Bobl gydag Anabledd Dysgu yng Nghymru.  Mae’r toriadau yma mewn hawliau dynol wedi digwydd ar ben sefyllfa oedd eisioes yn ddifrifol i nifer o bobl anabl ar draws y DU, fel ag yr amlygwyd mewn adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn disgrifio “toriadau systematig” ar hawliau dynol pobl anabl oherwydd mesurau cyni yn 2016.

Cynnwys lleisiau pobl anabl

Mae darllen nawr bod Llywodraeth y DU yn credu y dylid gostwng amddiffyniad hawliau dynol ymhellach yn frad dinistriol o’i rwymedigaeth tuag at bobl gydag anabledd dysgu. Mae’r diffyg parch tuag at y gymuned anabledd dysgu hefyd yn amlwg yn y ffordd y mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Does dim fersiynau hawdd eu deall o’r dogfennau. Rhyddhaodd Llywodraeth y DU ddogfen roedden nhw yn ei galw yn fersiwn hawdd ei ddeall ar 24 Chwefror, 12 diwrnod yn unig cyn y dyddiad cau. Nododd llythyr agored gan Grwpiau Pobl Anabl (DPOs) ar draws y DU at y Cyd-Bwyllgor ar Hawliau Dynol yn Senedd y DU nad oedd y fersiwn yma mewn gwirionedd yn hawdd ei ddeall ac mae wedi ei ddisgrifio fel  “annigonol i’r pwynt o fod yn sarhaus” (Saesneg) mewn llythyr agopred gan Liberty. Mae’r iaith a ddefnyddir yn dal yn rhy gymhleth a does dim delweddau yn y ddogfen i gefnogi’r testun. Yn bwysicach, dydy’r cynnwys yn y fersiwn ‘hawdd ei ddeall’ ddim yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig o’r ddogfen wreiddiol.  Does dim disgrifiad o’r newidiadau arfaethedig yn y Diwygiad. Mae Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a grwpiau anabledd dysgu eraill wedi dadlau bod yr  ymgynghoriad yn anghyfreithlon (Saesneg) oherwydd nad oes unrhyw addasiadau rhesymol wedi cael eu gwneud i gefnogi pobl anabl i gymryd rhan yn y broses. Rhwng y cyfnod eithriadol o fyr  a roddwyd i ddarllen y fersiwn ‘hawdd ei ddeall’ ac ansawdd gwael y ddogfen ei hun, ymddengys nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw ddiddordeb mewn cynnwys barn pobl anabl yn yr ymgynghoriad yma.*

Pwy sydd yn haeddu cael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn?

O ran cynnwys yr ymgynghoriad, mae nifer wedi nodi bod y newidiadau a gynigir yn rhai drwg iawn ac nad ydy’r rhesymau a roddir gan y Llywodraeth dros fod eisiau newid y Ddeddf Hawliau Dynol gyda Mesur Hawliau yn adlewyrchu realiti. Gellir gweld trosolwg o’r ymatebion yma (Saesneg yn unig). Rydym yn bryderus yn neilltuol am y syniad y gellid tynnu mynediad i hawliau dynol i ffwrdd oddi wrth rai pobl. Yn y ddogfen ymgynghori mae Llywodraeth y DU yn ysgrifennu bod “y dibyniaeth cynyddol ar hawliadau hawliau dynol dros y blynyddoedd wedi arwain fodd bynnag at ddiwylliant hawliau wedi’i ddatgyplu o’n cyfrifoldebau fel dinasyddion, ac afleoliad ystyriaeth dyledus i fuddiant ehangach y cyhoedd.” Mae’r ymadrodd yma yn gamarweiniol. Mae yna gyfrifoldebau eisoes yn gysylltiedig â’r hawliau a nodir yn y Ddeddf Hawliau Dynol. A’r cyfrifoldebau hynny ydy cyfrifoldebau’r wladwriaeth a sefydliadau’r wladwriaeth i barchu hawliau dynol pobl. Nid rôl y ddeddfwriaeth yma ydy creu ‘cyfrifoldebau’ i’r bobl y mae’r deddfau yma wedi eu gwneud i’w hamddiffyn. Mae’r ffocws yma ar ‘gyfrifoldeb’ a lles y cyhoedd fel pe bai’n awgrymu bod Llywodraeth y DU eisiau gwadu hawliau dynol i rai pobl. Ar hyn o bryd, mae’r newid yma yn benodol yn targedu mewnfudwyr sydd yn cyflawni trosedd a phobl sy’n ceisio cael iawndal am dorri hawliau dynol maen nhw wedi ei brofi. Rydym yn anghytuno y dylai rhywun golli ei hawliau dynol oherwydd rhywbeth maen nhw wedi ei wneud. Mae hawliau dynol yn gyffredinol a dydyn ni ddim yn gallu eu gwneud yn berthnasol yn unig i’r bobl hynny rydym ni yn meddwl sydd yn eu haeddu. Mae deddfau a sefydliadau eisoes yn bodoli a fydd yn cosbi rhywun sydd wedi cyflawni trosedd Dydy hynny ddim yn golygu na ddylen nhw bellach gael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn.

Credwn bod yr awgrym bod rhai pobl yn fwy neu yn llai haeddiannol o gael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn  yn un peryglus iawn. Ni ddylai neb fod yn penderfynu pwy ddylai neu na ddylai gael hawliau dynol – rhaid iddyn nhw fod yn gyffredinol yn ôl diffiniad. Rydym yn bryderus os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu tynnu  amddiffyniad hawliau dynol i ffwrdd i rai pobl yna gallai hyn arwain at dynnu hawliau dynol i ffwrdd oddi ar grwpiau eraill yn y dyfodol. Os mai dim ond os ydym yn cyflawni cyfrifoldebau penodol yr ydym yn haeddu cael ein hawliau dynol wedi eu hamddiffyn, yna beth sydd yn digwydd i bobl nad ydyn nhw yn deall y cyfrifoldebau hynny yn llwyr? Pa resymau eraill allai fod i gyfiawnhau cyfyngu ar hawliau dynol pobl eraill yn y dyfodol? Mae gan bobl gydag anabledd dysgu hanes maith a thywyll o gael eu hawliau wedi eu torri oherwydd eu namau ac/neu eu gwahaniaethau. Mae parodrwydd i beidio parchu hawliau rhai pobl oherwydd pwy ydyn nhw yn ein gwneud yn ofnus y bydd hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.

Ei gwneud yn fwy anodd i gael mynediad i lysoedd hawliau dynol

Yn y diwygiadau yma mae Llywodraeth y DU hefyd eisiau gweithredu ‘cam caniatad’ i sicrhau mai dim ond pobl sydd yn ‘wirioneddol wedi dioddef toriadau i’w hawliau dynol’ sydd yn cael mynd i’r llys. Maen nhw’n ysgrifennu bod achosion hawliau dynol yn costio gormod i’r llysoedd oherwydd bod pobl yn cyflwyno achosion ‘gwamal neu annilys’. Yn y cam caniatad, fe fyddai’n rhaid i berson ddangos eu bod wedi dioddef ‘anfantais sylweddol’ oherwydd bod eu hawliau wedi cael eu torri.

Credwn bod pawb y mae eu hawliau dynol wedi cael eu torri yn haeddu cael cyflwyno eu hachos mewn llys a bod hawlio bod rhai toriadau i hawliau dynol yn ‘ddinod’ yn niweidiol ynddo’i hun. Ni fydd y cam caniatad yma chwaith yn gwneud dim i atal achosion lle mae rhywun yn dweud celwydd neu  heb mewn gwirionedd ddioddef torri ar eu hawliau dynol. Yn hytrach nag atal achosion heb sylwedd i gyrraedd llys, fe fydd hyn yn ei gwneud yn fwy anodd i bobl  o grwpiau a ymyleiddwyd, er enghraifft pobl gydag anabledd dygsu,  i ymladd dros eu hawliau.

Casgliad

Bwriad y Ddeddf Diwygio Hawliau Dynol a gynnigir gan Lywodraeth y DU ydy ei gwneud yn fwy anodd i bobl frwydro i gael eu hawliau dynol wedi eu hamddiffyn. Mae’r llywodraeth yn hawlio bod yna ‘ddiwylliant hawliau’ lle mae pobl yn cyflwyno gormnod o achosion yn erbyn Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol oherwydd toriadau i hawliau dynol. Credwn, yn hytrach na’i gwneud yn fwy anodd i bobl yn y DU frwydro dros eu hawliau, y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio ei ymdrechion  yn hytrach ar geisio lleihau’r nifer o doriadau hawliau dynol yn y DU drwy weithio’n agosach gyda’r trydydd sector a chyrff sydd yn gweithio i amddiffyn hawliau dynol pobl. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn galw’r ddeddf Diwygio Hawliau Dynol yn ‘ymosodiad wedi’i chymell yn eidiolegol ar ryddid’ ac maen nhw wedi galw ar Lywodraeth y DU i newid y cynnig. Rydym yn eilio’r alwad yma  ac yn annog Llywodraeth y DU i gael gwared yn llwyr ar y Ddeddf Diwygio Hawliau Dynol.

 

  • Ers ysgrifennu hwn mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi fersiwn hawdd ei ddeall (ar 8 Mawrth 2022) ac wedi caniatau rhai pobl i wneud cais am estyniad. Rydym yn parhau’n bryderus nad ydy cynnwys y dogfennau hawdd eu deall yn cynnwys holl wybodaeth bwysig yr ymgynghoriad