Mae Anabledd Dysgu Cymru eisiau clywed eich barn am gynllun gweithreddu anabledd dysgu drafft Llywodraeth Cymru erbyn 21 Chwefror 2022.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu anabledd sydd yn nodi blaenoriaethau polisi am y 5 mlynedd nesaf. Maen nhw eisiau clywed eich barn ar y cynllun gweithredu yma i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y materion sydd yn bwysig i bobl Cymru, yn cynnwys pobl sydd yn defnyddio gwasanaethau anabledd dysgu a’r rhai sydd yn darparu cefnogaeth hanfodol.

Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grŵp Ymgynghorol Anabledd Dysgu y Gweinidogon (LDMAG) i ddatblygu’r cynllun gweithredu drafft. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn aelod ohono. 

Gallwch lawrlwytho neu ddarllen y Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2021-2026 yma (PDF)..

Gallwch lawrlwytho neu ddarllen y fersiwn hawdd ei ddeall o’r Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2021-2026 yma (PDF). 

Mae’r cynllun gweithredu yn adeiladu ar waith y rhaglen gwella bywydau Anabledd Dysgu a ddaeth i ben ym Mawrth 2021. Mae’n nodi ac yn blaenoriaethu y meysydd, camau gweithredu a chanlyniadau allweddol a fydd yn ffocws dros y blynyddoedd i ddod, yn cynnwys camau sydd eto i’w cymryd o’r rhaglen gwella bywydau. Mae hefyd yn delio gyda materion allweddol a nodwyd gan LDMAG yn eu hadroddiad Blaenoriaethau Polisi a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym Mai 2021 a chamau gweithredu blaenoriaeth sydd yn canolbwyntio ar helpu gwasanaethau a  phobl gydag anableddau dysgu wrth inni ddod allan o gyfyngiadau’r pandemig.

I dderbyn y sefyllfa iechyd cyhoeddus cyfredol a’r pwysau parhaus ar wasanaethau, mae ffocws ar adfer o Covid, yn enwedig ym mlynyddoedd cynnar y cynllun. Caiff y cynllun ei adolygu felly ar ôl 2 flynedd, yn  y gwanwyn  2024.

Y meysydd allweddol sydd yn gynwysiedig yn y cynllun ydy:

  • Cyffredinol/ Trawsbynciol yn cynnwys gweithgaredd traws lywodraeth na all eistedd mewn un maes penodol
  • Adfer o Covid
  • Iechyd yn cynnwys lleihau anghyfartaleddau iechyd a marwolaethau y gellir eu hosgoi
  • Gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
  • Hwyluso byw’n annibynnol a mynediad i wasanaethau drwy well mynediad i eiriolaeth a sgiliau hunaneiriolaeth, ymgysylltu a chydweithredu
  • Addysg yn cynnwys gwasanaethau plant a phobl ifanc
  • Cyflogaeth a sgiliau
  • Tai yn cynnwys tai priodol, yn agos i gartref a mynediad i wasanaethau
  • Trafnidiaeth.

Mae’r cynllun yn darparu lefel uchel, trosolwg strategol o feysydd gweithgaredd blaenoriaeth dros y blynyddoedd i ddod. Fe’i cefnogir gan gynllun gweithredu manylach sydd yn nodi’r camau penodol o fewn pob maes a fydd yn gymorth i gyflawni’r prif themâu yn y cynllun gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r ddwy ddogfen erbyn diwedd Mawrth 2022.

Fe fyddwn yn ymateb i gynllun gweithredu drafft Llywodraeth Cymru erbyn 28 Chwefror.

Rydym eisiau clywed eich barn a’ch sylwadau erbyn 21 Chwefror i’w cynnwys yn ein hadborth .

Mae rhai o’r cwestiynau yr hoffem i chi feddwl amdanyn nhw yn cynnwys:

  • Ydy’r meysydd a nodir yn y cynllun yn rhai rydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio arnyn nhw?
  • Ydy Llywodraeth Cymru yn gwneud dIgon yn y mesydd cyffredin yma i ateb anghenion pobl gydag anabledd dysgu?
  • Ydych chi’n meddwl y bydd modd cyflawni’r cynigion hyn yn y blynyddoedd i ddod neu a fyddan nhw’n rhoi gormod o bwysau ar wasanaethau yn ystod yr argyfwng iechyd parhaus?
  • A ddylid cynnwys meysydd eraill fel blaenoriaeth?

Sut y gallwch roi eich barn

E-bost: E-bostiwch eich sylwadau erbyn 21 Chwefror i cath.lewis@ldw.org.uk

Ffôn neu sgwrs fideo ar-lein: Gallwch ddewis gysylltu gyda ni i drefnu cyfweliad ar y ffôn neu ar-lein i drafod eich adborth. I drefnu cyfweliad, ffoniwch 029 20681160  neu e-bostiwch cath.lewis@ldw.org.uk cyn gynted â phosibl.  

Diweddariad: Darllenwch ein hymateb.

Diolch i bawb a rannodd eu barnau ar gynllun gweithredu draft â ni. Cyflwynasom gopïau o’r ymatebion i gyd i ni eu derbyn i Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â’n hymateb a hysbyswyd gan farn y rheini a rannodd eu barnau â ni. Gallwch chi ddarllen ein hymateb yma (Saesneg yn unig).