Mae astudiaeth flwyddyn o hyd wedi canfod bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, a’u teuluoedd/cefnogwyr, wedi profi llu o effeithiau negyddol yn ystod y pandemig.

Woman with a learning disability wearing a mask talking to a support workerEr bod y boblogaeth gyffredinol wedi profi cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd, mae adroddiad terfynol astudiaeth Covid Cymru wedi canfod bod yr effeithiau ar bobl ag anabledd dysgu wedi bod yn llawer mwy dwys.

Mae’r effeithiau negyddol hyn wedi cynnwys llai o wasanaethau a chymorth, gan gynnwys llawer o bobl y gwrthodwyd gwiriad iechyd blynyddol i lawer ohonynt, sydd yn ei dro wedi rhoi mwy o bwysau ar ofalwyr teuluol; mwy o bryder ac unigrwydd; a gostyngiad difrifol mewn gweithgareddau cymdeithasol a pherthnasoedd.

Tri phryder uniongyrchol

Mae adroddiad terfynol yr astudiaeth yng Nghymru yn tynnu sylw at yr angen i fynd i’r afael â thri phryder uniongyrchol:

  1. Ystyried yn y dyfodol sut y bydd unrhyw gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â phandemig yn effeithio ar bobl ag anableddau dysgu yn y dyfodol.
  2. Sut i wella’r diffyg cymorth mae pobl wedi’i brofi gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
  3. Yr effaith bosibl yn y tymor hwy y gallai byw drwy gyfyngiadau fod wedi’i chael ar iechyd a lles pobl ag anableddau dysgu a’r rhai sy’n eu cefnogi.

Mae’r adroddiad a fersiwn hawdd ei ddeall i’w gweld yma.

Cefndir

Wedi’i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi’r DU, mae’r astudiaeth yng Nghymru yn rhan o brosiect ehangach sy’n ymchwilio i effaith y pandemig ar bobl ag anabledd dysgu ledled y DU. Yng Nghymru, mae timau ymchwil o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi cynnal yr astudiaeth, gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Cyfwelodd ymchwilwyr ledled y DU, gyda chefnogaeth sefydliadau anabledd dysgu ym mhob gwlad, dros 1,000 o bobl ag anabledd dysgu mewn dau grŵp. Yng ngrŵp 1, cyfwelwyd cyfanswm o 685 o bobl ag anableddau dysgu ysgafn a chymedrol o bob rhan o’r DU dros y ffôn neu gyfweliadau Zoom. Yng ngrŵp 2, cwblhaodd cyfanswm o 448 o ofalwyr teuluol, neu staff cymorth cyflogedig, pobl ag anabledd dysgu mwy difrifol neu ddwys holiadur ar-lein. Cyfwelwyd y grwpiau 3 gwaith (Rhagfyr 2020-Ionawr 2021, Ebrill-Mai 2021 a Gorffennaf-Awst 2021) a gofynnwyd iddyn nhw beth oedd yn digwydd iddyn nhw bryd hynny. Yn ystod y cyfweliadau cyntaf, gofynnwyd i bobl hefyd sut oedd eu bywydau cyn y pandemig.

Roedd gan Gymru gynrychiolaeth dda yn yr astudiaeth gyda 173 o bobl ag anableddau dysgu yn cymryd rhan yn y drydedd rownd o gyfweliadau a 56 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth yn cwblhau’r arolwg ar-lein.

Dyma ddemograffeg y bobl oedd yn rhan o’r astudiaeth yng Nghymru:

  • Nododd 50% eu bod yn ddynion a nododd 48% eu bod yn ferched.
  • Roedd 54% yn iau na 35 mlwydd oed; roedd 31% yn 35-55 mlwydd oed; ac roedd 14% yn hŷn na 55.
  • Roedd 94% wedi’u nodi yn wyn.

Cafodd yr astudiaeth anhawster wrth recriwtio pobl ag anableddau dysgu o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Er mwyn datblygu adroddiad mwy cyflawn ar sut mae profiadau pawb ag anableddau dysgu yng Nghymru, mae’r adroddiad terfynol yn argymell bod yn rhaid i astudiaethau ac ymgynghoriadau yn y dyfodol ddod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu o’r cymunedau hyn.

Canfyddiadau astudiaeth Cymru

Isod mae crynodeb o’r adroddiad terfynol a’i ganfyddiadau.

Heintiau Covid-19

Ym mis Ionawr 2021, dywedodd 68% o bobl ag anableddau dysgu yng ngrŵp 2 a 55% yng ngrŵp 1 fod ganddynt gyflyrau iechyd sylfaenol, megis asthma ac epilepsi, a oedd yn eu gwneud yn bryderus ynghylch dal Covid-19. Ar yr un pryd, dywedodd tua 30% o bobl yn y ddau grŵp eu bod wedi cael prawf Covid-19 yn ddiweddar, gydag un o bob pump yn profi’n bositif. Roedd hyn yn uwch nag a adroddwyd ar gyfer y boblogaeth ehangach.

Cydymffurfio â rheoliadau Covid

Ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd 89% o grŵp 1 a 73% o grŵp 2 eu bod yn gwisgo mwgwd pan oedden nhw allan. Ym mis Awst 2021, dywedodd 72% o’r grŵp astudio cyfan eu bod yn credu y dylid cadw gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol hyd yn oed pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi.

Dywedodd un person: “Rwy’n hapus bod y cyfyngiadau’n dechrau llacio. Ond rwy’n teimlo’n bryderus iawn bod pobl yn dechrau peidio gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol.”

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:

  • Roedd pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn ymgysylltu â chyngor iechyd y cyhoedd er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch pobl eraill.
  • Roedd pobl ag anableddau dysgu o’r farn bod cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau yn bwysig. Roedden nhw’n teimlo y dylid cynnal y mesurau hyn gan y byddent yn rhoi mwy o hyder iddynt ail-ymgysylltu â’u cymunedau lleol.

Yr effaith ar iechyd pobl

Dywedodd 74% o’r cyfranogwyr eu bod fel arfer yn cael archwiliad iechyd blynyddol. Ym mis Ionawr 2021, dim ond 36% o grŵp 1 a 24% o grŵp 2 oedd wedi derbyn eu gwiriadau iechyd blynyddol. Yn rhan 3 roedd hyn wedi cynyddu ychydig, gyda 38% o grŵp 1 a 37% o grŵp 2 yn dweud eu bod wedi derbyn eu gwiriad iechyd. Roedd llai na hanner y bobl oedd yn arfer cael archwiliad iechyd blynyddol wedi cael un erbyn mis Awst 2021.

Yr effaith ar les pobl ag anableddau dysgu

Ym mis Rhagfyr 2020, aeth Cymru i drydydd cyfnod clo. Dywedodd 84% o bobl yng ngrŵp 1 ym mis Ionawr 2021 eu bod yn teimlo’n unig, yn bryderus neu’n drist y rhan fwyaf neu’r cyfan o’r amser. Erbyn mis Awst 2021, roedd y cyfyngiadau wedi lleddfu rhywfaint, ac roedd pobl yn gallu cyfarfod yn amlach. Ar y pwynt hwn, dywedodd 46% o bobl yng ngrŵp 1 eu bod yn unig, yn bryderus, yn drist neu’n boenus.

Dywedodd un person: “Hoffwn fynd allan eto heb boeni am farw a rhoi coronafeirws i bobl.”

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod fod cyfyngiadau ar ymweliadau gan deulu neu ffrindiau yn cael eu gosod ar bobl sy’n byw mewn cartrefi byw â chymorth neu gartrefi gofal. Mae’n cael ei gydnabod bod gwasanaethau gofal a chymorth yn gweithio’n galed i gadw at y rheolau a chadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, roedd penderfyniadau ynghylch mynd allan neu dderbyn ymwelwyr yn aml yn cael eu gwneud heb i’r person ei hun gymryd rhan. I rai, parhaodd y cyfyngiadau ychwanegol hyn ar ôl i’r cyhoedd allu byw gyda llai o gyfyngiadau, oherwydd prinder staff cymorth neu reolau cyffredinol ac asesiadau risg o fewn gwasanaethau.

Cafodd effaith cyfyngiadau ymwelwyr effaith andwyol ar les pawb, yn enwedig y rheini ag anabledd dysgu difrifol. Amlygodd hyn yr angen i fabwysiadu dull gwahanol pe bai cyfyngiadau tebyg yn cael eu gosod yn y dyfodol.

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:

  • Fe wnaeth pobl ag anableddau dysgu brofi iechyd corfforol a lles emosiynol gwael yn ystod y cyfnod clo. Bu rhai gwelliannau mewn lles emosiynol, ond yn llai felly i bobl ag anableddau dysgu mwy difrifol a dwys.
  • Roedd mynediad at wasanaethau iechyd meddwl wedi’i gyfyngu’n ddifrifol ar ddechrau’r cyfnod clo ac mae’n parhau i fod yn gyfyngedig.
  • Gallai rhai o’r anawsterau hyn a brofwyd gan bobl fod yn gysylltiedig â ffactorau y tu hwnt i fyw drwy bandemig. Profodd llawer o bobl ag anableddau dysgu farwolaeth rhywun annwyl yn eu bywydau

Defnyddio gwasanaethau

Canfu’r astudiaeth fod pobl ag anabledd dysgu yn cael llai o ofal a chymorth yn ystod y pandemig. Roedd gostyngiad mawr hefyd yn nifer y bobl a oedd yn gallu cael mynediad at wasanaethau dydd. Ym mis Awst 2021, dywedodd traean (32%) o bobl ag anabledd dysgu a gafodd gymorth gan wasanaethau eu bod yn cael llai o gymorth nag yr oedden nhw wedi’i gael cyn y pandemig. I bobl ag anableddau mwy difrifol a dwys, cynyddodd hyn i 48%.

Dywedodd ychydig dros hanner grŵp 2 eu bod yn defnyddio gwasanaeth dydd yn rheolaidd cyn y cyfnod clo. Erbyn mis Awst 2021, roedd hyn wedi gostwng i 30%. Dywedodd tua 33% o bobl yn y ddau grŵp eu bod wedi defnyddio gwasanaeth seibiant yn rheolaidd cyn y cyfnod clo. Erbyn mis Awst 2021, dywedodd 25% o bobl yng ngrŵp 1 eu bod wedi gwneud hynny eto yn ystod y 4 wythnos flaenorol ac ar gyfer grŵp 2 roedd tua 16%.

Cafodd y sefyllfa hon nid yn unig effaith sylweddol ar bobl ag anabledd dysgu, llawer ohonynt yn methu â chwrdd â’u ffrindiau y tu allan i’r gwasanaethau dydd, ond hefyd i ofalwyr teuluol a oedd yn gorfod parhau i ddarparu gofal yn ystod y dydd pan fyddai eu hanwyliaid fel arfer yn mynychu gwasanaeth dydd.

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:

  • Diflannodd y cymorth gan wasanaethau statudol sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu neu fe’u gostyngwyd yn sylweddol yn ystod 2021. Er y bu rhywfaint o newid erbyn mis Awst 2021, nid oedd wedi cyrraedd lefelau cyn Covid. Roedd y newid yn is i bobl ag anableddau dysgu mwy difrifol.

Yr effaith ar berthnasoedd cymdeithasol

Cyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, cymerodd 86% o’r ddau grŵp ran mewn gweithgareddau cymunedol, er enghraifft, ymweld â grwpiau cymunedol, caffis a siopa. Ar ôl hyn, dywedodd 72% o bobl yng ngrŵp 1 ac 83% o grŵp 2 nad oedd hyn yn wir mwyach. Erbyn mis Awst 2021, roedd 57% o grŵp 1 a 48% o grŵp 2 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Mae’n amlwg nad oedd cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, dywedodd rhai pobl eu bod bellach yn cael mwy o gyswllt â chymdogion lleol a phobl sy’n byw gerllaw nag erioed o’r blaen.

Dywedodd un person: “Rwy’n sgwrsio mwy â’m cymdogion, ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth siarad â’r bobl sy’n byw yn agos i’r lle rwy’n byw. Rwy’n credu fy mod bellach wedi cwrdd â’m holl gymdogion ers i’r pandemig ddechrau. Mae fy nghymdogion hefyd wedi bod yn helpu ei gilydd pan fydd pobl ei angen.”

Dim ond 33% o bobl yng ngrŵp 2 oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd o gymharu â 92% o grŵp 1. Nid oedd pawb yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd yn annibynnol na phryd bynnag yr oedden nhw am wneud hynny.

Tynnodd un rhiant sylw at effaith methu â gweld ei mab, sy’n byw mewn tŷ â chymorth, arni hi a gweddill y teulu: Mae angen sicrwydd cyson arno bod ei deulu’n ei garu, ei angen ac yn gallu ei weld. Mae’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu’n llawn drwy Zoom. Arweiniodd peidio â gallu gweld ei deulu’n bersonol at ei iechyd meddwl yn dioddef, fel y gwnaeth iechyd meddwl ei deulu.

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:

  • Roedd bywydau cymdeithasol pobl ag anableddau dysgu wedi’u cyfyngu’n ddifrifol yn ystod Covid ac nid ydynt wedi gwella’n llwyr eto.

Yr effaith ar ofalwyr

Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar les gofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig. Yn ogystal â hyn, bu gostyngiad yn nifer y bobl ag anabledd dysgu a oedd yn gallu cael mynediad at wasanaethau dydd a seibiant. Roedd hyn yn golygu bod gofal eu hanwyliaid yn dibynnu’n llwyr ar ofalwyr teuluol.

Gofynnodd yr astudiaeth i ofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig am yr effaith yr oedd y pandemig wedi’i chael arnyn nhw eu hunain. Ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd 68% eu bod yn teimlo dan straen, ac ym mis Awst 2021 roedd yr un peth yn wir i raddau helaeth (71%). Ar ddechrau’r astudiaeth dywedodd 64% bod eu cwsg wedi cael ei amharu, gyda 60% yn dweud eu bod yn teimlo’n flinedig a 47% yn isel eu hysbryd. Erbyn mis Awst 2021 roedd y lefelau hyn yn debyg: Dywedodd 61% bod eu cwsg wedi cael ei darfu, dywedodd 78% eu bod nhw’n teimlo’n flinedig a dywedodd 43% eu bod yn isel eu hysbryd. Dim ond 8% ym mis Rhagfyr 2020 a ddywedodd “nad oedd yr un o’r profiadau hyn” yn berthnasol iddyn nhw, gan ostwng i 7% ym mis Awst 2021.

Dywedodd un gofalwr teuluol: “Ni allaf adael fy mab gartref yn ddiogel ar ei ben ei hun. Mae’r prif effaith wedi bod arnaf fi. Mae’r holl gyfrifoldebau arna i.”

Dywedodd gweithiwr cymorth cyflogedig: “Roedd y person rwy’n ei gefnogi yn arfer cael pedwar diwrnod yr wythnos, nawr mae’n 2 ddiwrnod bob pythefnos. Mae hyn yn golygu bod gan ei ofalwr lwyth gwaith hyd yn oed yn fwy.”

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod y canlynol:

  • Bu’n rhaid i ofalwyr teulu ymgymryd â mwy o rolau gofalu ar sail 24/7 am ran helaeth o 2020 a pharhaodd hyn i 2021 wrth i’r gostyngiadau mewn gwasanaethau barhau.
  • Dywedodd llawer o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig fod y rolau gofalu ychwanegol wedi cael effaith negyddol arnyn nhw a’u lles yn ystod 2020. Erbyn mis Awst 2021, roedd y niferoedd hyn wedi cynyddu.

Y dyfodol

Dywedodd un o bob tri o bobl yng ngrŵp 1 eu bod yn credu y gallai eu bywydau fynd yn ôl i’r ffordd yr arferai fod mewn 12 mis neu fwy, ond dywedodd y rhan fwyaf o bobl (42%) nad oedden nhw’n siŵr pryd y byddai hyn yn digwydd.

Gofynnwyd i bobl beth fyddai’n bwysig iddynt pe bai cyfyngiadau symud yn y dyfodol. Roedd llawer o syniadau ond roedd y rhan fwyaf yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • help gyda siopa
  • cymorth i weld meddyg teulu
  • cymorth i gael meddyginiaethau
  • gwybodaeth fwy hygyrch am gyfnodau clo
  • cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu ffôn symudol.

Dywedodd un unigolyn ei fod eisiau “pethau bach iawn. Mynd am goffi gyda ffrind. Rydw i eisiau mynd i wylio’r rygbi, ond dyw fy mam ddim yn barod i adael i mi. Rwyf am fynd yn ôl i farchogaeth ceffylau hefyd.”

Fe wnaeth Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru, Zoe Richards, sylwadau ar ganfyddiadau’r astudiaeth a’i gobeithion ar gyfer y dyfodol:

“Mae’n amlwg o nifer y bobl yng Nghymru a gyfrannodd at yr ymchwil fod awydd gan bobl i rannu eu profiad yn ystod y pandemig. I’r rhan fwyaf, roedd eu profiad yn negyddol, ac roedd pobl yn teimlo y gwahaniaethwyd yn eu herbyn ymhellach oherwydd eu hanabledd dysgu. Wrth i ni symud yn awr i greu byd gwell ar ôl y pandemig, mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod yr heriau a’r dioddefaint mae pobl wedi’u hwynebu a bod llais pobl ag anabledd dysgu ynghyd â gofalwyr teuluol yn cynnig cyfeiriad wrth gynllunio’r hyn sydd nesaf”.

Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu

Pan oedd yr adroddiad yn cael ei ysgrifennu, roedd Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu, sy’n amlinellu sut y bydd cymorth a gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu yn cael eu darparu rhwng 2021 a 2026. Mae llawer o’r pethau y gofynnwyd amdanynt yn yr astudiaeth hefyd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu drafft. Cyfeiriodd Anabledd Dysgu Cymru at y canfyddiadau canlynol o astudiaeth Covid yn ein hymateb diweddar i’r ymgynghoriad ar y cynllun drafft:

  • Rydyn ni angen ffyrdd newydd o ddod o hyd i bobl ag anableddau dysgu sy’n ddu, Asiaidd neu o gymuned lleiafrifoedd ethnig a siarad â nhw. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau’n cynnwys pawb.
  • Mae angen i ni ddarganfod mwy am fywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gynllunio gwell gwasanaethau. Fe wnaeth cydweithio fel partneriaeth o ymchwilwyr a gwahanol sefydliadau helpu i wneud i’r astudiaeth hon ddigwydd. Gallai ymchwil yn y dyfodol ddysgu o hyn.
  • Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn teimlo’n unig ac wedi’u hynysu. Fe wnaeth y pandemig hyn yn waeth. Roedd defnyddio ffonau a’r rhyngrwyd i siarad â phobl yn helpu. Ond mae’n well gan bobl gwrdd ag eraill yn bersonol. Dylai help i ddefnyddio ffonau a’r rhyngrwyd fod yn rhan o gymorth o ddydd i ddydd, nid yn rhywbeth ychwanegol.
  • Mae angen cynnwys pobl ag anableddau dysgu wrth gynllunio cymorth ar gyfer pobl mae eu hanwyliaid wedi marw.
  • Cymerodd llawer o bobl ran yn yr astudiaeth. Roedden nhw am ddweud eu dweud. Gwnaed llawer o benderfyniadau i bobl yn ystod y pandemig, hyd yn oed penderfyniadau y gall pobl eu gwneud drostyn nhw eu hunain. Mae’n bwysig bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
  • Roedd pobl ag anableddau dysgu yn poeni am eu swyddi cyflogedig yn ystod y pandemig. Mae angen mwy o gymorth i helpu pobl i aros mewn swyddi ac i bobl gael y cyfle i weithio.
  • Yn ystod coronafeirws, nid oedd pobl ag anableddau dysgu yn teimlo eu bod yn cael eu hystyried pan wnaed penderfyniadau a rheolau. Rhaid i hyn newid.

Cynigion

Daw’r cynigion canlynol o fersiwn hawdd ei ddeall o’r adroddiad terfynol.

Mewn argyfyngau iechyd yn y dyfodol, mae angen i benderfynwyr feddwl am:

  • Sut i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i barhau i weld anwyliaid.
  • Sut i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ag anableddau dysgu.
  • Sut i helpu pobl i gadw’r un ansawdd bywyd.
  • Sut i sicrhau bod hawliau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu parchu gymaint â phobloedd eraill.
  • Sut i gynnwys pobl ag anableddau dysgu, eu gofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig wrth adolygu rheolau am coronafeirws.
  • Dylai’r holl reolau a gwybodaeth newydd fod yn hawdd eu darllen.
  • Dylid gwneud cynlluniau fel nad yw pobl ag anableddau dysgu yn colli cymorth.

Y camau nesaf

Bwriedir cynnal digwyddiad yn ddiweddarach eleni i drafod canfyddiadau’r astudiaeth a gwaith yn y dyfodol.