Cyngor Abertawe – Cynllun hawliau dynol a chydraddoldeb – Hawdd ei Ddeall

Ebrill 2024 | Cynllun Cyngor Abertawe ar gyfer 2024 i 2028.

Gofynnodd Cyngor Abertawe i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u cynllun newydd. Dyma’r tro cyntaf iddynt gyfuno eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol â’u hymrwymiadau Hawliau Dynol.

Mae’r cynllun yn dangos sut y byddant yn parhau i gefnogi hawliau dynol a chydraddoldeb yn Abertawe. Mae’n egluro’r cyfreithiau a’r gwerthoedd cysylltiedig a’r ffeithiau allweddol am Abertawe.

Mae’n dweud sut y gwnaethant y cynllun, eu nodau a’r ffyrdd y byddant yn gwirio sut mae’n datblygu.

Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r cynllun. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r cynllun.

Gallwch ymweld â gwefan Cyngor Abertawe am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.