Llywodraeth Cymru – Asesiadau Effaith ar Iechyd – Hawdd ei Ddeall

Ionawr 2024 | Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw eich barn am gyfraith newydd.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hymgynghoriad. Maen nhw’n dod â deddf newydd i Gymru o’r enw Rheoliadau Asesu Effaith ar Iechyd (Cymru).

Mae asesiad o’r effaith ar iechyd yn golygu meddwl am sut y gallai rhywbeth effeithio ar iechyd pobl. Maen nhw eisiau gwybod beth yw barn pobl am gyrff cyhoeddus sy’n cynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd yng Nghymru.

Mae’r arolwg yn y llyfryn yn gofyn beth yw eich barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru. Gallwch lenwi’r arolwg erbyn 29 Mawrth 2024 i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw eich barn.

Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r llyfryn.

Gallwch ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru am mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.