Prifysgol De Cymru – Geiriau a Thermau a ddefnyddir mewn Presgripsiynu Cymdeithasol – Hawdd ei Ddeall

Rhagfyr 2023 | Canllaw i eiriau a thermau anodd a ddefnyddir mewn presgripsiynu cymdeithasol.

Gofynnodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u geirfa a thermau  presgripsiynu cymdeithasol. Prosiect gan Brifysgol De Cymru, Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd hwn.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned. Mae’n ffordd i’w helpu i reoli eu hiechyd a’u llesiant.

Gall presgripsiynu cymdeithasol fod yn ddryslyd. Mae hyn oherwydd bod llawer o eiriau neu dermau anodd yn cael eu defnyddio. Gall gwahanol bobl ddefnyddio geiriau gwahanol i ddisgrifio’r un peth, felly mae’r canllaw hwn yn helpu pobl i ddeall beth mae’r geiriau a’r termau yn ei olygu.

Mae’r canllaw Hawdd ei Ddeall yn egluro beth yw presgripsiynu cymdeithasol ac mae ganddo A i Y o’r prif eiriau anodd a ddefnyddir gydag esboniadau.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r canllaw.

Gallwch ymweld â gwefan Rhestr Eirfa Presgripsiynu Cymdeithasol i gael gwybod mwy am yr eirfa.

Mae gan wefan Ymchwil Ysgol Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru fwy o wybodaeth am eu hymchwil a’u prosiectau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio eu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Gallwch ddod o hyd i’r fersiwn Hawdd ei Ddeall a grëwyd gennym ar eu cyfer yma.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.