Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Cael yr help sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn gadael yr ysbyty – Hawdd ei Ddeall

Chwefror 2024 | Canllaw i bobl hŷn yng Nghymru.

Gofynnodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u canllaw newydd. Mae’n ymwneud â chael yr help sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.

Mae’n esbonio beth sy’n digwydd pan gewch eich rhyddhau o’r ysbyty a pha ofal a chymorth y gallwch ei gael ar ôl i chi adael.

Mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am eich hawliau pan fyddwch yn gadael yr ysbyty, yn ogystal â manylion sefydliadau a all helpu.

Fe wnaethom fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw hefyd. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r llyfryn.

Gallwch ymweld â gwefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.