Llywodraeth Cymru – Gweithio i Wella, rydyn ni eisiau gwybod beth ydy eich barn chi – Hawdd ei Ddeall

Mawrth 2024 | Newidiadau i’r broses o wneud cwyn am y GIG yng Nghymru.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u llyfryn ymgynghori. Maen nhw eisiau gwneud rhai newidiadau i Gweithio i Wella.

Gweithio i Wella ydy’r enw sy’n cael ei roi i’r broses o wneud cwyn am y GIG yng Nghymru. Mae’r llyfryn yn cynnwys gwella gofal cleifion, sut mae Gweithio i Wella yn gweithio nawr, a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yn digwydd.

Maen nhw eisiau cael eich barn ar y ffordd y mae pryderon a chwynion am ofal y GIG yn cael eu codi, eu hymchwilio a’u hymateb.

Mae’r arolwg yn y llyfryn yn gofyn beth yw eich barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru. Gallwch lenwi’r arolwg erbyn 6 Mai 2024 i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw eich barn.

Rydyn ni hefyd wedi gwneud fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Gellir llenwi’r ddau ar-lein ac maen nhw ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r llyfryn.

Gallwch ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.