Llywodraeth Cymru – Siarter Budd-daliadau Cymru – Hawdd ei Ddeall

Chwefror 2024 | Budd-daliadau sydd yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u Siarter. Mae’n gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol i gydweithio i wella System Budd-daliadau Cymru.

Mae’n ymwneud â’u nodau ar gyfer y system, beth y byddant yn ei wneud a sut y byddant yn gweithio i ddarparu Budd-daliadau Cymru.

Maen nhw eisiau ei gwneud hi’n haws i bobl yng Nghymru hawlio Budd-daliadau Cymru. Maen nhw eisiau sicrhau bod pawb yn gallu hawlio’r gefnogaeth y mae ganddyn nhw’r hawl i’w gael.

Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r llyfryn.

Gallwch ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.