Engage to Change – Interniaethau â Chymorth – Hawdd ei Ddeall

Mawrth 2024 | Yr hyn rydym wedi’i ddysgu yng Nghymru.

Gofynnodd y tîm Engage to Change i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad newydd.

Mae’r prosiect Engage to Change wedi gweithio ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn.

Roedd yn brosiect 7 mlynedd pwysig a oedd yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau ar gyfer gwaith a symud i swyddi cyflogedig.

Mae’r adroddiad yn ymwneud â pha mor dda y bu eu hinterniaethau â chymorth yn gweithio. Interniaeth â chymorth yw lle mae pobl ifanc yn dysgu trwy weithio. Mae’r gwaith yn ddi-dâl, ac fe’u cefnogir gan hyfforddwr swydd. Mae’r adroddiad yn cynnwys yr hyn y mae’r tîm Engage to Change yn credu sydd angen digwydd nesaf gydag interniaethau â chymorth.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r adroddiad.

Gallwch ymweld â’r wefan Engage to Change am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.