Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru – Eich gwasanaeth tân ac achub – Hawdd ei Ddeall

Awst 2023 | Adolygiad o’r gwasanaeth argyfwng, beth ydych chi’n ei feddwl?

Gofynnodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hymgynghoriad. Maen nhw eisiau gwella eu gwasanaethau argyfwng yng Ngogledd Cymru. Mae’r ddogfen yn ymwneud â sut maen nhw’n gweithio nawr a pha newidiadau y gallen nhw eu gwneud i wasanaethau yn y dyfodol.

Mae’r ffurflen ymateb yn gofyn beth ydy eich barn am y newidiadau y gallent eu gwneud. Gallwch lenwi’r ffurflen ymateb erbyn 22 Medi 2023 i ddweud wrth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru beth ydy eich barn.

Fe wnaethom fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall hefyd o’r dogfennau. Mae pob un ohonynt yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r ddogfen wybodaeth.

Gallwch ymweld â gwefan Tân ac Achub Gogledd Cymru i gael y ffurflen ymateb i’w llenwi a mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.