GIG Cymru – Dyletswydd Gonestrwydd – Hawdd ei Ddeall

Mai 2023 | Dyletswydd Gonestrwydd. Canllaw i bobl sy’n cael gofal a thriniaeth.

Gofynnodd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u canllaw i Gymru ynglŷn â Dyletswydd Gonestrwydd

Mae Dyletswydd Gonestrwydd yn golygu bod yn rhaid i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ddweud wrthych chi neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan pan gaiff niwed ei achosi. Rhaid i sefydliadau’r GIG yng Nghymru fod yn agored ac yn onest am y gofal a’r driniaeth a gewch.

Mae’r canllaw yn esbonio beth yw Dyletswydd Gonestrwydd, sut mae’n berthnasol mewn sefyllfaoedd gwahanol a’r hyn y mae’n rhaid i GIG Cymru ei wneud.

Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw a fersiwn y gellir ei olygu i’w  defnyddio ym mhob bwrdd iechyd penodol. Mae’r holl ganllawiau’n hygyrch yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Gwasgwch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw i Gymru.

Gallwch fynd i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.