Llywodraeth Cymru – Newid y rheolau ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, cartrefi gofal a darparwyr gwasanaethau – Hawdd ei Ddeall

Mai 2023 | Rheoleiddio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth rydych chi’n feddwl.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hymgynghoriad. Maen nhw am wneud rhai newidiadau i’r rheolau ar gyfer sut mae gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yn cael eu rhedeg. Mae gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yn ysgolion lle gall plant fyw wrth iddynt gael addysg, gofal neu nyrsio a chymorth.

Mae’r arolwg yn gofyn beth ydy eich barn am y newidiadau y mae Llywodraeth Cymru am eu gwneud. Gallwch lenwi’r arolwg erbyn 6 Awst 2023 i ddweud wrthynt beth ydy eich barn.

Gwnaethom hefyd fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r arolwg. Mae’r ddau arolwg ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r arolwg.

Gallwch ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.